Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.