Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drudfawr

drudfawr

Roedd prysurdeb cyffredinol ar y rhelyw o'r cychod drudfawr gydag ambell lanc ar ben y riging yn gosod golau neu erial.

O ganlyniad i hyn, y mae tuedd ddiamheuol iddynt gynnig triniaethau llawfeddygol pan nad oes gwir angen amdanynt ac i roi triniaeth gymhleth a drudfawr pan fyddai un syml a rhad yn gwneud y tro'n iawn.

Awgryma hyn oll bod angen gwneud gwaith arbrofol hirfaith a drudfawr i'r prosesau sydd ar waith ar safle llongddrylliad.

Lle bo angen, cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud yr offer - ac mae hyn yn hen draddodiad efo gwyddonwyr - nid yw darganfyddiadau gwyddonol bob amser yn dibynnu ar offer cymhleth a drudfawr.

Mêr esgyrn y negro druan lanwodd eich cypyrddau â llestri drudfawr o aur, arian, a china - gwaith dwylaw celfydd celfyddwyr blaenaf Prydain ac Ewrop - a huliodd eich byrddau a'r danteithfwydydd brasaf, a'ch selerydd â gwinoedd mwyaf blasus gwinllanau Ysbaen, Portiwgal, a Champagne.

Er enghraifft, y mae'r afon Conwy mor llydan lle y mae'n mynd i'r môr fel y bu rhaid adeiladau pontydd drudfawr i fynd o'r naill lan i'r llall.