Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwch

drwch

Ychwaneger at drwch o streiciau drwch o eira, ac yn sgil hynny, cyfyd cwestiwn arall.

Dyna pam y dwedodd Graham Henry taw Lloegr yw'r ail wlad gryfa yn y byd y dyddiau hyn, drwch blewyn y tu ôl i Awstralia.

O drwch blewyn yr wythnos hon, llwyddodd Plaid Unoliaethwyr Ulster i ddyrchafu eu llygaid uwchben greddfau hanesyddol y llwyth Protestannaidd.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Un diwrnod daeth Idris i gwm tywyll, ynghudd dan geseiliau mynyddoedd uchel oedd yn drwch o goed pinwydd gwyrdd.

Yn y blwch arfau newidiwch drwch y llinell i'r mwyaf trwchus.

Newidiwch drwch y llinell trwy glicio ar y blwch trwch (!).

Os byddai planhigfa o goed derw neu ffawydd neu gyfuniad o'r ddau ar dir y plas elem yno gyda phartner i ogrwn y deilbridd addas fyddai yn drwch danynt a'i storio mewn adeilad ar gyfer amser o angen.

Mae Penybont yn dathlu y byddan nhw - o drwch blewyn - yn chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.

Y rheswm am hynny, wrth gwrs, ydyw nad oes na grug na choed-llus chwaith mewn digon o drwch i greu caead nag amddiffynfa i'r adar a'r anifeiliaid sy'n dibynnu ar allu ymguddio i fyw ac i fagu epil.

Neu'r niwl coch oedd yn drwch dros bopeth.

Daethom ar draws rhwy barc bychan lle y câi hen bobl fynd i eistedd yn yr haul - 'roedd y glaswellt wedi tyfu'n hir, a'r Dant-y-Llew yn drwch.

Ymhen dim, roedd y stori'n drwch mewn papurau lleol a chenedlaethol ac ar dudalennau Fleet Street hefyd.

Eto nid yw hi'n deg disgwyl i drwch y proffesiwn, yng nghanol eu darpariadau ar gyfer y disgyblion, ymgodymu ag adroddiadau ymchwil hirfaith.

A gallai'r coetsmon ddynwared Cymraeg chwithig Catherine Edwards i drwch y blewyn.