Roedd o'n mynd i drwshio to sinc y tŷ gwair a syrthiodd hefo'r daeargryn dwytha a chlirio'r nialwch o fieri, weiran-bigog, prenia, heyrs a blerwch yn y gadlas.
Roedd o'n mynd i drwshio tolynod y giât lôn, rhoi giatia newydd ym mhob cae, cilia concrit i ddal pob giât a'r cwbwl yn cau heb linyn bêl!
Cymrodd Ifor olwg ar y fuwch yn y beudy, estyn caib a rhaw a joint plastig o eigion rhyw focs tŵls, a neidio i'r Daihatsu i drwshio'r hollt yn y beipan.
Ca'l 'i drwshio.' atebodd Ifor heb fath o euogrwydd yn y byd.