Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwyadl

drwyadl

Ymolchodd yn drwyadl, hyd yn oed ei wallt gwyn, tenau.

Adwaenai ei fro yn drwyadl ond sail y cyfan oedd ei serch at Fon.

Perthyn Deddf Iaith '93 i'r ganrif ddiwethaf a'i gwerthoedd ac mae'n hen bryd ei diwygio'n drwyadl.

asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiadau - ei ddefnydd i godi safonau cyrhaeddiad ac i gynllunio gwaith newydd; ei gymedrolrwydd mewnol i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gosod yn gywir ar y lefel neu gyfnod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol y maent wedi'i gyrraedd; ac i ba raddau y mae system yr ysgol yn cynnig trefn asesu drwyadl, ddibynadwy a pharhaus ar gyfer pob disgybl ym mhob un o Dargedau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

'Roedd ei heddychiaeth drwyadl yn mynd yn ôl i'w ddyddiau cynnar.

Gellid barnu hefyd iddo dderbyn magwraeth Gristnogol drwyadl.

mae'r llyfr wedii ymchwilion drwyadl, ac maen amlwg fod yr awdur yn wirioneddol frwdrydig am ei bwnc.

Ddechrau'r flwyddyn, fe ofynwyd i ysgolion Cymru lunio safle gwe ar unrhyw bwnc, ar yr amod bod y safleoedd yn Gymraeg neu'n drwyadl ddwyieithog.

Rhaid iddo weithredu yn drwyadl ddwyieithog a rhaid iddo fabwysiadu polisïau fydd yn hybu'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg, cynllunio a'r economi.

Cefais well mantais na neb arall i'w adnabod yn drwyadl.

Dim ond trwy roi statws swyddogol i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru y gallwn ni wedyn fynnu bod banciau a siopau a chwmnïau ac ymddiriedolaethau iechyd, a.y.y.b. yn gweithredu'n drwyadl ddwyieithog. Siân Howys yn gwneud ei marc ar ddechrau'r ymgyrch

Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.

Rhaid oedd iddynt fod yn fentrus, ond yn bennaf oll yn adnabod y llong yn drwyadl.

Yn dilyn yr helynt hwn bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg pan gyfarfyddant nesaf yn ystyried eu hymateb os na fydd ffurflenni cyfrifiad 2001 yn drwyadl ddwyieithog i bob ty.

Byddai Anti yn brwsio ei gwallt yn drwyadl bob nos, cant o weithiau, ac edrychwn innau arni'n barchus.

Fe anghofir yn rhy aml, 'rwy'n credu, fod hunanfeirniadaeth yn rhan o'r gwaith creadigol, a bod un sy'n analluog i wneud hyn yn drwyadl ac yn uniongyrchol yn sicr o fethu fel llenor, ac yn fwy felly fel bardd.

Mae angen mwy na hynny mewn trafodaeth drwyadl a chytbwys ar drothwy rhyfel.