Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwyddo

drwyddo

'Tasa'r drws 'na'n agor rŵan, fedrach chi ddim cerddad allan drwyddo fo heb dynnu sylw hanner y byd.'

Siriolodd drwyddo.

Fel Cyfarwyddwr Peirianneg a Thechnoleg S4C, bydd yn rheoli tîm o tua 35 ac yn gosod ac yn arwain strategaeth dechnegol y sefydliad, yn ogystal â rheoli systemau gwybodaeth i ddefnyddwyr Technoleg Gwybodaeth trwy'r corff drwyddo draw.

Erbyn hyn roedd y sŵn wedi peidio a dyma edrych drwy ffenest y gegin a gweld fod y lle fel tasai byddin o lager louts wedi bod drwyddo.

Cafodd hyd i un bocsaid o luniau ac aeth drwyddo'n eiddgar.

Ond yr ydw i yn cofio ildio fy sedd ar fws rhag i ferch orfod sefyll ac hyd yn oed ddal drws yn agored i fenyw gael mynd drwyddo om blaen.

Teimlai'n hyderus yng nghylch y twnnel, heb feddwl y byddai llawer o berygl mewn mentro drwyddo.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

O'r digwyddiad hwnnw ymlaen, un tîm oedd ynddi, ac ar y diwedd, Llanelli aeth drwyddo i'r rownd gyn-derfynol, gyda sgôr o ddeg pwynt ar hugain i dri, a'r hawl i wynebu sialens tîm arall o gryse duon--ond cryse duon o Gastell Nedd y tro hwn, a'r gêm yn cael ei chware ar faes San Helen yn Abertawe.

Bu bron iddo â mygu wedi i Marie agor y drws a'i arwain drwyddo.

Mae ambell berson mwy sensitif na i gilydd wedi cael ei daflu i'r llawr fel pe bai sioc drydanol wedi mynd drwyddo.

Cododd yntau'i lyfr o'i boced a chrychu'i dalcen wrth chwilio a chwalu drwyddo fo.

Mae'r gweithgareddau a awgrymir yn y pecyn drwyddo draw yn rhoi arweiniad mewn gwahanol feysydd.

Bydd Vladimir Voltchkov o Belarus, a ddaeth drwyddo o'r rowndiau rhagbrofol, yn wynebu Byron Black ar Almaenwr sydd ai fam o Birmingham, Alexander Popp, yn chwarae Pat Rafter o Awstralia.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Syfrdanwyd y crwydryn a dychrynodd drwyddo wrth weld y bachgen bach annwyl o'i flaen yn tynnu cleddyf o'i wain i'w fygwth yntau.

Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.

Cyn leinio muriau a nenfwd y twnnel â briciau, byddai rhywun yn cerdded drwy'r twnnel cyn i bob trên chwyrnellu drwyddo, i'r diben o wneud yn siwr nad oedd talp o graig wedi disgyn ar y trac.

Yna ail wresogwch y cig drwyddo cyn ei fwyta.

Er hynny nid oedd un ohonynt nad oedd rhyw ias o ofn yn cerdded drwyddo fel y gwylient, a'u llygaid ar y tyllau yn y mur, am unrhyw arwydd fod yr ymwelydd wedi cyrraedd.

Diau ei fod yn iawn, ac eto, wedi gweld arwyddion o friciau'n malu, ni thybiwn i fod cerdded drwyddo'n gwbl ddiberygl.

Aeth cryndod drwyddo.

Dyna ni drwyddo i'r rownd derfynol am yr ail dymor o'r bron.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Erbyn ein tymor olaf yn yr ail flwyddyn roedd Talfan wedi difrifoli drwyddo.

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod yna, roedd e fel hunllef - un na feddylies i y bydden ni'n byw drwyddo.'

Nid am fod to y twnnel wedi ymollwng y dylifai'r goleuni drwyddo, ond fel yr esboniais, ond am fod yno awyrydd yn ymagor i fro'r goleuni.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.