Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drwyddynt

drwyddynt

Wedi cyrraedd diogelwch y mur wrth gefn y ffynnon gwnaethant yn siŵr eu bod yn gwybod ym mhle'r oedd y tyllau yn y muriau fel y gallent wylio drwyddynt.

Byddent yn werth mynd drwyddynt yn hamddenol a gofalus pan na fyddai'r un darlun arall ar ei meddwl i darfu ar bopeth.

Nodwyd rhodfeydd difyr o ffiltir a hanner drwyddynt gan y Comisiwn Coedwigaeth, ni fanylaf yma gan i mi eisioes grwydo'r coed tu draw.

Gwin cartref oedd yn y calabash a rhoddwyd pibau hir o bambw i bawb sugno drwyddynt, ac eisteddodd pawb i lawr o'i amgylch.

Caniatâ inni adnewyddiad ysbrydol nerthol i'n deffro ni o'n cysgadrwydd ac i roi inni'r nerth i ailgodi'r muriau a ddrylliwyd ac i gau'r bylchau y rhuthrodd gelynion y Ffydd drwyddynt i anrheithio dy winllan.

Rhedai iasau i lawr asgwrn cefn Jean Marcel wrth iddo ymwthio drwyddynt ar ôl y ferch.

Wrth i'r 20fed ganrif ddod i'w therfyn darlledodd BBC Radio Cymru gyfres hanes llafar 16 rhan Hyd Ein Hoes, sef menter unigryw a ail-greodd brofiadaur can mlynedd diwethaf drwy leisiaur bobl a fun byw drwyddynt.

Teimlai Mam yn reit ddigalon ar ôl y ffiasgo amser swper a'r ffrae wedyn ac i'w chysuro'i hun aeth i nôl tomen o hen albwms lluniau i sbio drwyddynt.

Un o nodweddion amlycaf y rhagymadroddion yw'r ymdeimlad o wladgarwch cynnes, a thanbaid yn wir, sy'n rhedeg drwyddynt.

Maen nhw'n barod i blygu i'r gwynt, felly mae'r gwynt yn chwythu drwyddynt heb eu niweidio.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.