Un o drychinebau'r sefyllfa bresennol yw bod y ddwy garfan hyn, er yn coleddu'r un nod, yn mynd i amau cymhellion a dulliau ei gilydd, a bod hynny yn ei dro yn esgor ar elfen o anoddefgarwch yn agwedd y naill at y llall.
Yn y ddeuoliaeth hon y gwelir y potensial am drychinebau.