Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drydan

drydan

'Ga'i Scaletrix, Trên drydan, beic mynydd, cit pêl-droed Cymru a chyfrifadur 'Dolig?

Wrth nesu at Lyn Llydaw fe gerddwch yn gyfochrog â'r bibell ddþr newydd sbon danlli sy'n nadreddu tua gorsaf drydan Cwm Dyli.

Yr oedd arni angen stof drydan.

Ar ben y grisiau hongiai un lamp drydan wan o'r nenfwd gan daflu goleuni melyn ar y paent a godai'n swigod gwlyb ymhob man.

Erbyn hyn, os oes dau neu dri o dai yn weddol agos at ei gilydd ar fin y ffordd, mae'n rhaid cael lamp drydan i gneitio drwy'r nos ar ddrysau caeedig a ffordd ddidramwy, ac y mae goleuadau'r man bentrefi'n llewyrch melyn yn yr awyr dywyll.

yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno.

Hedfannai ei gwallt yn gudynnau brith o gylch ei phen, fel petai newydd gael sioc drydan, ac roedd ei chap nos lês wedi ei luchio'n ôl yn gam ar gefn ei phen gan y mwng gwyllt.

Mae pethau wedi mynd mor ddrwg ar y ffermwyr hyn nes maen nhw'n gorfod defnyddio ffens drydan i gadw'r anifail yn ddigon pell i ffwrdd.

Os defnyddir potel dwr poeth i dwymo'r gwely fe ddylid rhoi'r gorau i'r blanced drydan, oblegid gall y ddau gyda'i gilydd fod yn beryglus (a chysgu arnynt yn berygl ychwanegol).

Maen nhw'n aros eu cyfle yn y gwanwyn pan fo'r ffermwyr yn plannu tatws yn y ddaear a phan nad ydi'r ffens drydan yn cael ei def- nyddio, a chyn gynted ag y mae'r tatws ifainc yn y ddaear maen nhw'n dod gyda'r nos ac yn tyrchu'r ddaear gyda'u trwynau cryfion ac yn dod o hyd i'w hoff fwyd.

Wedi iddo ddatod y sgriwiau ar ei wyneb, gan ddisgleirio golau ei lamp drydan ar yr olwynion bach y tu mewn, gwelodd Douglas mai dim ond gwifren fechan oedd wedi dod yn rhydd.

Yn wir, gellir gyrru llawer iawn mwy o wybodaeth i lawr ffibr optegol nag i lawr gwifren drydan o'r un trwch, ac y mae'r wybodaeth honno'n cyrraedd yn fwy diogel.

Heb drydan a dwr y rhan fwyaf o'r diwrnod eto.

Doedden nhw erioed wedi mentro i leoedd pell, - heb drydan a sŵn cerbydau modur.

Ddoe daeth Mrs Davies i'n gweld ni i sôn am drydan ac naeth hi ddod a Wilbi hefyd ac naeth hi ddeud wrthym ni i beidio a chwarae hefo barcud lle mae yna wifren ac os ydi'r ffrisbi wedi mynd ir is orsaf gofun wrth mam neu dad i ffonio Manweb i nôl o ac peidiwch chwarae pêl ar y lôn pan maer dynion yn trwsio gwifrau yn y lon.

Kate yn mynd i gael acupuncture a thriniaeth drydan i'w phen-glin.

Gwneud Olwyn Tua phedwar ugain mlynedd yn ôl, pan oedd digon o waith i'r saer coed yn yr ardaloedd gwledig, nid oedd sôn am drydan yma, a byddai raid i'r crefftwr lifio a thyllu'r coed â'i law a'i nerth ei hun.

Cafodd wybod bod y cyfan yn gweithio ar system drydan gref a ddibynnai ar fatris.

Yn fuan daeth cert fechan drydan ar hyd y coridor.

Gan nad oedd gennym ni drydan, 'doedd gennym ni, felly, ddim teledu, er mewn noson lawen mi fydda nhad yn dweud fod gennym ni un, a honno'n gweithio efo cannwyll.

wrth bwyso ar un o'r allweddau, yr oedd y pwynt cyferbynnol yn cael ei godi yn ddigon agos at yr olwyn fel bod ei bin yn ei gyffwrdd ar y cylchdro nesaf o'r olwyn, a thrwy hynny yn caniatau i drydan lifo drwy'r cysylltiad.

Dysgu am Drydan: Daeth Mrs Davies o Manweb i'r ysgol yn ddiweddar i sôn wrth y plant am beryglon trydan.

Heb drydan, hwn fydd yr unig ffynhonnell.