Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drylwyr

drylwyr

Caiff gwaith ei farcio'n drylwyr a chaiff y disgyblion adborth rheolaidd sy'n eu galluogi i wneud cynnydd.

Rhoddodd wybodaeth drylwyr am y deddfau sy'n ymdrin ag addysg grefyddol, ac am y sefyllfa yng Ngwynedd.

Nid yw'n cynnig atebion rhwydd i ni ynglyn â sut i fynd ati i drefnu'r Gymraeg yn y Cynulliad, ond mae'n dangos pa mor bwysig yw paratoi yn drylwyr i gael sustem effeithiol o'r diwrnod cyntaf un: sustem sydd yn caniatau iddi fod yn hollol ymarferol a phriodol i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ym mhob agwedd o fywyd y Cynulliad.

Ar ôl iddo ddysgu'i grefft yn drylwyr, dechreuodd Paul Davies fynegi'i hun mewn dull cynyddo anhrefnus, gan ddefnyddio plastar a sbwriel yn gerflunwaith.

Dylsair Undeb benodi swyddog, ond maen rhaid cael person â chanddo wybodaeth drylwyr o'r gêm.

Mae enwau'r ysgrifwyr yn warant o werth yr ysgrifau, sydd gan amlaf yn canolbwyntio'n effeithiol ac yn drylwyr ar un gerdd, gan egluro'r cefndir a'r cyfeiriadau a geir ym mhob un.

Y mae Saesneg yn gwneud ei gwaith yn drylwyr.

Dyma'r cyfnod pan berchid astudiaeth drylwyr o hanes yn gyfrwng ynddo'i hun i ddeall sut y dylid llywodraethu'n ddoeth a chyfiawn.

Wel, roeddwn i'n ymgeisydd am Urddau yn Esgobaeth Llanelwy gan fod diffyg Cymraeg, yr adeg honno roedd Esgobaeth Bangor yn drylwyr Gymraeg.

Roedd hyn i gyd yn ddigon i godi'r gwrychyn i'r gorllewin o Bont Llwchwr, ac fe fuodd Carwyn James a Norman Gale wrthi'n cynllunio a pharatoi mor drylwyr ag a wnaethent cyn gêm Seland Newydd, 'nôl ym mis Hydref.

Roedd brwdfrydedd ac egni gan y grŵp a'r cwmni i wneud y recordiau yn llwyddiant, drwy eu hyrwyddo nhw'n drylwyr a threfnu nosweithiau.

Estynnwn yr un croeso i Mrs Laura Lewis, Y Wern adref o Ysbyty Gwynedd gan obeithio y bydd pob un ohonynt yn gwella yn drylwyr.

Hynny yw: nid ydynt yn dweud yn eglur fod angen gwybodaeth drylwyr o'r Gymraeg.

Achosion a gofnodir yn drylwyr ac yn drefnus, fel y bydde disgwyl i unrhyw gyn-dditectif ei wneud.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Rydyn ni wedi paratoi'n drylwyr ar gyfer y gêm yma ond mae'n mynd i fod yn gêm andd dros ben.

Yn wir, mae'n rhaid eu dyfrhau'n drylwyr yn ystod dwy flynedd gyntaf eu hoes os yw'r tywydd yn sych.

Paratôi'r ysgolfeistr ni'n drylwyr iawn at y Nadolig a rhoddai i ni hanes y Nadolig cyntaf mor ddiffuant fel nad oedd modd i'r un plentyn ei anghofio.

Holodd Ali yn drylwyr, ond prin y teimlai iddo gael gair o wirionedd ganddo.

Cynigir rhagymadrodd sydd fwy neu lai yn astudiaeth drylwyr ond dealladwy dros ben serch hynny, o dri o Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.