Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drywydd

drywydd

O wybod am drywydd barddoniaeth ddiweddarach Peate, mae gwirioneddol berygl inni gael ein llygad-dynnu'n ormodol gan ddiwinyddiaeth led-fodernaidd y darn.

Collais fy ffordd sawl gwaith yn y Fro wrth ddilyn rhyw drywydd neu gilydd o un lle bach dirgel i'r llall.

"Hwyrach ei fod yn ddigon clyfar i ddod o hyd i drywydd ysbryd!

Teimlent eu bod ar drywydd rhywbeth pwysig iawn.

Nid oherwydd ei bod yn haws crafu'r pridd sydd eisoes wedi'i droi neu ei balu y dewisir lleoliad o'r fath ond oherwydd nad oes drywydd ar bridd felly ac na all gelyn sy'n dibynnu ar ei ffroen ddilyn trywydd o'r ganolfan i'r llecyn magu.

Yn Pwy Sy'n Cofio Siôn? cawn hanes Leni, cyflwynydd radio ifanc, sy'n gobeithio cychwyn gyrfa lwyddiannus wrth fynd ar drywydd y seren bop Siôn Tremthanmor.

Sylweddolodd fod byw mewn cymdeithas o'r fath yn gadael llawer o gyfrifoldeb yn nwylo'r llenor unigol a'i ofn oedd y buasai caniata/ u i bob unigolyn ddilyn ei drywydd ei hun yn arwain at anarchiaeth a diffrwythdra.

O giledrych o'i ôl weithiau, amheuai fod rhywun ar ei drywydd.

Bu llu o ffermwyr ar drywydd Ap drwy gydol y misoedd hyn, ond teimlai Wil Dafis mai ef yn anad neb bellach oedd fwyaf o ddifri.

Nid oedd Cochyn y plismon i'w weld yn unlle, a meddyliai Wyn ei fod yn dal i fod ar drywydd y lleidr cathod gan fod Mari Ddu, un arall o gathod y stad dai, wedi diflannu yn ystod y nos.

Byddai'n dwyn gwair o ffermydd cyfagos, ond er y gellid dilyn ei drywydd yn ôl am Dyddyn Bach ni feiddiai neb ei gyhuddo, gan fod arnynt ei ofn.

Yr oedd ar drywydd llênladrad gan y bardd yn y cyfnod hwn.

Fe gerddais ocsiynau dirifedi ar drywydd llyfrau ond mae'n debyg mai'r un bwysicaf y bu+m ynddi oedd yr ocsiwn ar lyfrau Hendregadredd, Pentrefelin, ar ôl marw y Barnwr Ignatius Williams.