Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

duwiol

duwiol

Ym mhen tipyn bach ar ôl hyn, yr oedd "yr hogiau% (yr efrydwyr am y Weinidogaeth felly, i ddweud gair o brofiad wrth Fwrdd y Cymun yn y Cyfarfod Misol, a'r seraff duwiol, y Parchedig Gruffydd Parry y Borth Borthygest felly) yn gwrando ar ein tipyn "Profiadau%, Ni chofiaf y nesaf peth i ddim a ddywedais.

'Roeddwn i wedi clywed fod hwn yn ddyn duwiol.

(Troai fy nhad yn ei fedd pe gwyddai beth wy'n mynd i'w ddweud yn awr ar goedd gwlad am yr hen lanc duwiol - dyn da oedd y Parch.

Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.

Os oedd cyhoeddi llyfrau duwiol yn y ddeunawfed ganrif yn ernes o'r Diwygiad i ddod, a yw ysgrifennu ar hanes crefydd yng Nghymru heddiw yn ernes fod deffro dramatig wrth y drysau?

Oherwydd y dylanwad duwiol hwn, penderfynodd Pamela nad oedd yr ysgol a fynychai ei merched hi'n addas i blant Cristnogol.

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.