Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwbl

dwbl

Chwiliwch am icon ClarisWorks a dwbl-gliciwch arno i'w agor.

Mae ganddi tua 35 o gryno ddisgiau ar y farchnad gan gynnwys CD dwbl o Symffonïau 5, 6 a 10 Shostakovich, dan arweiniad ei Chyfarwyddwr Cerddorol, Mark Wigglesworth, a Symffonïau 5 ac 8 Rubbra, dan arweiniad y Darpar Brif Arweinydd, Richard Hickox.

Oherwydd methiant silicon i ffurfio bondiau dwbl, nid O=Si=O yw'r cyfansoddyn hwn, ond yn hytrach ac nid nwy ydyw ond prif gyfansoddyn carreg a chraig!

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Yn y lle cyntaf, mae'r uned bellach tua dwbl yr hyd y byddwch wedi arfer ag ef.

Hefyd, ceir y drysau gwydr dwbl hynny sy'n nodweddu adeiladau a'r fath.

Cafwyd amryw o nofelau'n ymdrin a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - Ar Fryniau'r Glaw ac Eryr Sylhet gan Merfyn Jones yn ymweud a'r India, ac yn arbennig helyntion y cenhadwyr cynnar yno, Llyfr Coch Sian a Sian a Luned gan Kathleen Wood, a Deunydd Dwbl gan Harri Williams sy'n bortread o Dostoiefsci.

Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.

Mae i'r naw ffibril perifferol ffurfiad dwbl yn cynnwys dau is-ffibril perifferol a adwaenir fel A a B.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Gwaith digon caled oedd hwn, y tyllu dwbl hand, ond o ran hynny caled yw pob rhan o waith y chwarelwr.

Ni all silicon ffurfio bondiau dwbl fel carbon.