Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwblwr

dwblwr

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Pa mor wynias bynnag yr oedd y senglau yn dyfod o'r ffwrnais, collent eu gwres yn gyflym wrth eu rowlo, a phan deflid hwy at y dwblwr i'w

Am ran o eiliad, safai'r dwblwr a'r senglen gyferbyn â'i gilydd, yn frwydr rhwng nerth corff a metel poeth.