Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwfr

dwfr

Un llyfr sydd, un ffynnon, un dysgawdwr, un goleuni, ac ymadroddion fel 'llyfr y bywyd, ffynnon dwfr y bywyd, ni a wyddom mai dysgawdwr wyt Ti wedi dyfod oddi wrth Dduw, Goleuni y byd ydwyf i' yn dod i'r cof.

Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.