Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwi

dwi

'Dwi'n saith deg un, ac yn ddigon hen i nabod sŵn y gwynt pan glywa i o.

Dwi i erioed yn cofio fo'n eistedd lawr a dweud, rwan dyma be ydy Cynghanedd Lusg, dyma ydy Cynghanedd Draws.

Dwi'n cofio'r gynhadledd i'r wasg ar y bore cynta' .

Ei drefniadau teithio oedd yn gyfrifol am hynny ond dwi yn ame y bydde fe wedi gwneud yr un peth petae e ddim yn dychwelyd i Gymru.

Wrth gwrs dwi allan o gysylltiad yn byw ym Mhen Llyn ond wrth fynd trwy Faldwyn a Meirion mae'n amlwg fod pethau wedi newid ynde.

Ma' hi'n gofyn bae'.' 'Drw' Lanengan ac yn deirect i'r dre ydi'r gorchymyn 'dwi wedi gal.

Dwi ddim o blaid tor-cyfraith.

Camgymeriad, mi gredaf, oedd dangos tŵr real ar ddechrau'r cynhyrchiad gan ei fod yn tynnu oddi ar amwysedd llwythog y geiriau cyntaf: Merch: Dwi yma.

Dwi'n cofio achlysur i Cyrnol Darbishire, cyfarwyddwr y chwarel, roi trip i bawb o'r gweithwyr i'r Wembley Exhibition, a Mam yn dweud wrtho: 'Byddwch chi'n ofalus.

'Dwi'n mwynhau her y peth, rhywsut.

Oni bai am yr adroddiadau gafaelgar yn y wasg a'r lluniau grymus a ddaeth yn dystiolaeth feunyddiol o dynged y Cwrdiaid, dwi'n ofni mai troi cefn fyddai ymateb gwledydd y byd.

'Dwi'n methu cofio llawer am gôl Cymru.

'Dwi'n siwr fod ei gyfansoddiad o fel mynydd tanllyd eiliadau cyn ffrwydro.

Dwi hefyd yn gweithio yn y cantîn ac yn y Children's House.'

Dwi'n rhamantydd wrth gwrs, ond dwi'n hoffi meddwl cyn i ddyfodiad y peiriannau, er bod y bobl mor brysur ac yn gorfod gweithio mor galed, roedden nhw'n gweithio'n ddistaw yn y meysydd ac yn cael rhyw gyfle i ymglywed a natur fel petai.

Dwi'n gwiehtio ar linell gynhyrchu.

'Dwi'n cofio un noson hwyr, hwyr iawn a ninnau'r hogia yn gwneud lot o sŵn fel arfer.

Yn y diwedd, dwi'n cael ryw fath o floda iddi, ac yn cael bocsus o ddiod a chreision.

Dwi wedi siarad a hen bobl, ac mae'n siwr gen i eu bod nhw'n dweud y gwir.

Y cwbwl dwi'n obeithio yw y gwnawn ni gyrraedd y diwedd.

'Ar y cyfan dwi ddim yn erbyn y cynllun - yn enwedig os yw e'n mynd i helpu tîm Cymru.

'Dwi'n teimlo bydd Graham Henry yn dewis nifer o Gymry ac ymhlith rheini bydden i'n meddwl am Scott Gibbs, Mark Taylor, falle Allan Bateman,' meddai.

Dwi ddim yn cofio sut ro'n i'n teimlo pan gyhoeddwyd ein bod wedi cael ail wobr am y ddawns orau.

Dwi isie esboniad nawr.

Os bydda ganddo fo stori newydd, mi fydda ar y ffôn - "Glywaist ti hon?" neu, "Dwi isio mynd i lle ar lle heno, sgin ti rwbath i mi?" Mae llawer yn gwybod iddo deimlo i'r byw na chafodd arwain y 'Steddfod Genedlaethol.

Wel os mai Cymraeg ydi'ch mamiaith chi, dwi ddim yn gweld ei bod hi'n iawn i chi newid.

Dwi ddim yn meddwl mai tawelu pethau ddylia'n swyddogaeth ni fod.

Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.

Dwi'n sylwi nad oes gan y myfyrwyr sy'n dod i mewn rwan ddim yr un cefndir mathemategol ag oedd ganddyn nhw gynt.

Mae'r rali yng Nghymru am y tro cynta a dwi'n mwynhau hynny.

Er dwi['n falch iawn bod pobol yn mynd i'r drafferth o ddweud 'helo' a gweiddi ar draws y stryd.

Mae'r arbenigwyr yn gytun mai dyma'r gystadleuaeth orau yn hanes y Cwpan Byd, a hyd heddiw, dwi'n dal i gofio'r effaith gafodd y gystadleuaeth arna i.

Dwi'n reit famous yma, a dweud y gwir.

'Dwi isio diod, Mam,' meddai Owain.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Dwi ddim yn awgrymu fod yr holl enwi, cardiau melyn a choch ar cwynion a glywson ni yn ystod y tymor yn anghyfiawn.

Ar y llaw arall, dwi ddim eisiau ei weld yn rhedeg at ei athrawon ai hyfforddwr bob tro y mae pethaun mynd braidd yn gorfforol.

Mae rhyw falchder yn y ffaith bod y cymeriad wedi gweithio i'r fath raddau a dwi'n gwerthfawrogi pob gair caredig...

"Rhwng y motobeics a phopeth dwi wedi bod yn hoff iawn o ddreifio.

Dwi ddim yn argymell chwarae budr o gwbl, a dylsai unrhyw un syn anghyfrifol ar y cae dderbyn cerydd haeddiannol.

Ond dwi wrth fy modd yma; mae'n fywyd hollol wahanol - y pace yn slofach, fel oedd hi yng Nghymru, mae'n siwr, hanner can mlynedd yn ôl.

Ond dwi ddim yn meddwl y byddain gweithio i mi.

m : dwi'n teimlo'n anghysurus iawn iawn i'n wrthgrefyddol yng nghymru oherwydd mi wn wn i'n brifo ac yn tramgwyddo pobl ddiffuant iawn.

'Dwi ddim yn meddwl bod nhw'n sylweddoli mor ddifrifol oedd y broblam.

Mae pobol yn dweud nad oes gynnyn nhw ddim help pan maen nhw'n tisian, ond dwi ddim yn 'u credu nhw.' Roedd Modryb yn ailddrechrau mynd i hwyliau pregethu eto, ac wedi anghofio am y tro am y sŵn crafu o'r llofft chwarae.

m : nac ydw, dydw i ddim yn mynd o gwmpas yn meddwl ew, dwi'n torri tir newydd yn y gymraeg'.

'Odyn, dwi'n credu!' Unwaith eto - gwell gwneud yn siŵr.

Heddiw, dwi'n 'i feddwl.' 'Na.

Yndw, dwi'n grediniol bod rhywbeth o heddwch a thangnefedd y Nadolig rhywsut a rhywle yn treiddio i'r amgylchfyd ac i fyd natur yr adeg yma o'r flwyddyn.

JOHN: Dwi wedi bod yn argyhoeddiedig erioed.

'Dwi'n gwybod,' atebodd Adam yn dawel.

"Dwi'n dal i fod yn besimistaidd ac fel hen ysgolfeistr dwi wedi gweld y graff yn mynd lawr," meddai.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

Erbyn y mis nesaf fe gawn fwy o wybodaeth dwi'n meddwl.

Roedd y gig yn dda dwi'n meddwl.

Dwi'n gwbod y siop 'na rwyt ti yn sôn am.

Neu'n aml, mi fydda i'n cael cyfle tra'n gyrru - dwi'n gweld hynny'n ffordd dda o'i wneud o hefyd.

Dwi wedi'i weld e'n mynd lawr,' meddai ar y rhaglen radio, Y Celfyddydau, ar BBC Radio Cymru.

Yn amser y Diwygiad, mewn sgwrs a Pitar Wilias, un o wyr amlwg y pentra, ynglyn a chrefydd, fe ddwedodd Rondol wrtho, 'Dwi ddim yn ama na fedrwn i arwain fy hun i ymuno a'r Bedyddwyr pe bawn i'n gwybod y cawn i drochfa mewn cwrw' 'A finna' meddai Begw.

'Vatilan,' meddai Nel un bore gwyn a hithau'n codi ar flaenau'i thraed ger y muriau mawr, 'dwi isio siarad hefo chdi.'

Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...

"Dwi inna' hefyd." Ddywedais i ddim byd.

Dwi'n disgwyl gêm galed heno.

Yn yr Orsaf daeth nifer o bobl atom i siarad a holi pwy o'n i, o ble dwi'n dod, pam dwi yma a ballu.

Dwi'n poeni na fydd seilia' ar gyfer lefel A mor gadarn ag y buon nhw ac y bydd yn rhaid gostwng safon gwaith dosbarth chwech.

'Dwi'n methu dallt y lol a'r brolio 'sgin y merched 'ma am y washing machines a rhyw gybôl felly.

Dwi'n teimlo fel mod i'n diodde o'r ffliw bob dydd.

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

Dwi ddim yn meddwl bod e'n iachus.

Dim ond un peth dwi ddim yn licio yma - bod 'na dai a thai a thai o'n cwmpas ym mhob man.

Dwi'n siwr y byddwn i wedi cael medal o ryw fath pe byddwn i'n cystadlu yn Sydney ar y pryd.

Dwi'n cofio hogyn o Benmaenmawr yn priodi hogan o Lanfairfechan, ac ewyrth iddo'n gofyn: 'Ble rwyt ti am fyw, Bob bach?'

'Dwi'n mynd i'r chwarel i ddysgu crefft fy nhad - gwneud setia'!'

Dwi'm isio mynd am dro.

A dwi'n teimlo hynna i'r byw - a dwi'n teimlo nad oes dim byd bellach allwn ni wneud oherwydd yn y cyfnod presennol yma mae rhywbeth mawr wedi digwydd.

Twm: Dwi'n sylwi bod Euros a'i chwaer, Megan, yn aelodau.

Dwi mor wahanol i Meic Pierce - mae'n anodd credu hyn dwi'n siwr - ond dwi'n foi tawel iawn sy'n cadw ei hun iddo'i hun.

Dwi'n cael yr argraff mai 'chydig o swyddi athrawon mathemateg sy'n cael eu hysbysebu y dyddiau hyn.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

"Dwi'n hoffi arlunio, hefyd, a chwarae golff a gwylio'r teledu."

dwi'm yn siŵr rþan...' Dechreuodd y siopwr Gemp chwilio drwy'i bocedi.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Ond dwi ddim yn hoffi.

Lle bynnag y gesyd fy hanes teuluol dwi'n gobeithio fod rhyw gymaint o egwyddor a gweithredu uniongyrchol fy nghyndeidiau wedi gwaddodi yn fy ngwythiennau i.

Dwi'n credu fod yna rywbeth digon priodol mewn cynnal cyngerdd yng Nghaerfyrddin," ychwanegodd.

Y noson honno, daeth Aethwy ar dro i'n llety ni gyda'i stori : Mi es i heibio i Tom yn y coleg 'na, ac mi dudis i wrtho fo, dwi'n gweld mai Thomas Parry sy ar tu allan i'ch llyfr chi, ac nid Tom Parry.

hefyd dwi'n casglu stori%au eraill sydd wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau ynghyd â rhai sydd heb weld golau dydd eto i wneud cyfrol arall y flwyddyn nesaf.

Mae hwnnw wedi bod yn cwyno'n ddiweddar, dwi wedi dweud wrtho fo am gymryd peth o'i ffisig ei hun.

''Dwi'n mynd i gal babi.' 'Congrads.

Mae digon o law yma, od dwi ddim yn meddwl y gwneith hynny lawer o wahaniaeth.

Dwi'n lecio Anti Nel yn iawn hefyd, chwara' teg, achos ar ôl cinio mi ddaru hi fynd â fi i weld y Pafiliwn.

"Dwi'n gwerthfawrogi gweithio efo nhw," meddai Carys, a fu tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Artistig cwmni theatr mewn addysg y Fran Wen.

''Sna 'di o wahaniath mawr gynnoch chi, 'dwi am drio'i 'nioni hi am Gerrig Gleision, draws caea'.' 'A 'ngadal i yn fama, ar 'y maw?' 'Fedar y bus aros ylwch.

"Maen nhw wedi bod yn gefnogol ac - mae o'n swnio'n cliched, dwi'n gwybod, ond - maen nhw wedi agor eu drysau i ni." Chwe awr o drafod syniadau, o actio byrfyfyr, o benderfynu ac o baratoi y mae Carys yn ei gael gyda phob grwp cyn recordio'r achos a hynny'n ddi- sgript, o flaen y camerau.

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

'Dwi'n cofio iddo wneud hynny mewn dwy fferm nid nepell o Fodffrodd sef, Cerrig Duon a Frogwy Fawr, ia fel yna y bydda nhad yn cael ei 'Supplementary Benefit'.

Ond dwi'n siwr nawr, fis yn ddiweddarach, ar ôl cael amser i eistedd lawr a meddwl, y bydd e - os daw'r alwad ffôn - yn cael gair gyda'r wraig a phenderfynu wedyn.

Fydda i'n licio mynd 'nôl i Port ar wylia - gweld fy rhieni a ffrindia, a chael brÚc bach - ond famma dwi'n licio byw.'

Does ganddo ddim nod arbennig: "Dwi'n un sy'n cymeryd bywyd fel ag y mae o'n dod ac wedi gwneud hynny erioed,'' meddai.

Dwi'n blês dros ben i ni gadw'r llinell amddiffyn yn gadarn drwy gydol y gêm.