Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwll

dwll

Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

Yn ddiweddarach, fe'i holodd ei hun yn dwll = pam y bu mor uffernol o lipa?

Yr unig beth a gydgysylltai y darnau wrth ei gilydd oedd dau fach o bren, un ym mhob cwrbyn ac yn mynd i mewn i dwll yn y darn nesaf.

Wedi darfod y ddau dwll mae ei fêt sydd ar y top yn gollwng dau bisyn o haearn crwn iddo; mae yntau yn eu rhoi yn y tyllau, wedyn mae'r sawl sydd ar y top yn gollwng darn o bren iddo.

Mae llawer rheswm rhag i dwll 'fynd allan'; o bosib fod y fuse wedi torri, neu ei fod yn wlyb ac felly yn araf iawn yn llosgi, neu efallai nad yw'r ddau ddyn wedi ei osod mewn cyffyrddiad â'r powdr.

Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr.

Pluen i Tinning ar dwll 16, a Howell yn ildio ergyd ar y twll blaenorol.

Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.

Soniodd un arall am ymdrechion i godi tŷ (yn lle ci) o dwll yn y ddaear.

Fe gurodd hi Sara Mountford yn y rownd gynderfynol cyn ennill o ddau dwll ac un yn weddill yn erbyn Sarah Jones o Abertawe yn y rownd derfynol.

Y mae rhywun yn dod i ddygymod yn fuan iawn a'r ffaith fod pob un yn meddwl ei fod yn cymryd rhan mewn rali ond cymerodd ychydig mwy o amser imi sylweddoli mai osgoi rhyw dwll neu bant yn y ffordd y mae y gyrrwr o'ch blaen wrth gymryd tro cwbl annisgwyl a dirybudd ar ffordd agored.

Pe bai hi'n mynd yn dwll arno a gorfod mynd i gartre' henoed, ni welai yn ei fyw pam y dylai dalu mwy yno am ei fod wedi cadw rhyw geiniog neu ddwy.

Maent yn penderfynu y tro hwn i gael twll ar ganol y graig; felly mae'r ddau dyllwr yn mynd i ben y graig hefo dwy raff fawr, ac yn eu rhoi'n sownd ar y top hefo cerrig, wedyn mae un o'r dynion yn mynd i lawr y graig ar hyd a rhaff i'r lle y maent wedi bwriadu tyllu, ac yn gwneud dau dwll bach yn y graig rhyw lathen oddi wrth ei gilydd.

Mae eisiau mynd yno nos Calan Mai a gwneud anferth o dwll.

Yna gwnewch dwll bychan mewn darn o gerdyn du (i gynrychioli cannwyll eich llygad).

Crafant y pridd o'r ddaear gan adael twneli gweigion a siamberi gorffwys, gyda'r twneli yn eu cysylltu ag ambell dwll dianc yma ac acw.

Lluniau gwych eto, ar ffurf "sbecian drwy dwll" i weld pa anifail sydd dros y ddalen.

Aeth y 'golau tan glo' yr oedd mam Gwenno yn gwau hosan wrtho pan oedd Huwcyn yn edrych 'trwy dwll bach y clo' yn olau llachar bylb trydan yn crogi o ganol y nenfwd.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

Beth yn y byd oedd a wnelo hwy â rhyw dwll fel Porth Iestyn?

Ar ôl y saethu mawr mae'r cerrig sydd wedi dod o'r graig yn rhy fawr i neb fedru gwneud dim â hwy, ac felly rhaid cad twll eto ym mhob carreg, ond ddim yr un math o dwll â'r cyntaf: twll singl hand y gelwir hwn gan mai un dyn sydd yn ei wneud; ebill bychan sydd ganddo ac mae'n taro a throi ar ei ben ei hun.

Rwyt yn disgyn i dwll dal baedd gwyllt.

Nick Price o Zimbabwe sy'n arwain - mae e nawr ddeg ergyd yn well na'r safon ar ôl cael pluen ar dwll cynta ei ail rownd.

Os oedd yr ogof yn dwll o le, roedd fan hyn yn waeth byth.

Peidio mynd yno'n y lle cyntaf, ti'n dweud, ei adael yn ei dwll i edwino a phydru, fel mae e'n haeddu!

Tyfwch rywfaint o hadau mwstard a berw dwr ar sbwng llaith mewn soser ac yna rhowch ef mewn blwch cardbord a chau'r caead.Torrwch dwll bychan yn ochr y blwch, a'i adael ar sil ffenestr y gegin gyda'r twll yn wynebu'r ffenestr.Sylwch ar y blwch yn rheolaidd, a dyfrhewch yr hadau mwstard a berw'r dwr.