Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwthwn

dwthwn

Ac yn y dwthwn hwnnw.

A son am Babyddiaeth, mae llawer o drafod y dwthwn hwn ar ein perthynas waed ag Iwerddon; ond y gwir amdani, ebe RT, yw hyn: 'There are but two ingredients in modern Welsh mental life - what is native, and what is English or what has been mediated through England.'

Mae'n amlwg, o ddarllen yr anterliwtiau fod gan Huw Jones o Langwm ddawn i adrodd stori, rhywbeth sy'n prinhau y dwthwn hwn yn anffodus.

Y mae traddodiad politicaidd y canrifoedd, y mae holl dueddiadau economaidd y dwthwn hwn, yn erbyn parhad y Gymraeg.

Yn yr ardal lle'r wyf yn byw yn awr clywaf y genhedlaeth hynaf yn cyfeirio yn aml at y dioddef a'r cyni a brofasant y dwthwn hwnnw.

Fe fuont o gwmpas ers tro byd dim ond 'u bod nhw'n uwch eu cloch y dwthwn hwn rywsut.

Sefais yn y lle priodol, caeais fy llygaid gan eiriol ar fy Nghreawdwr i'm cadw'n ddiogel y dwthwn hwn PLIS!