Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwyieithrwydd

dwyieithrwydd

Ystyried manteision dwyieithrwydd a sut y gall gwybodaeth yn y naill iaith gryfhau'r cysyniadau pynciol yn y llall.

Mae hyn yn dangos mai canlyniad i bolisi swyddogol y Cynulliad yw dwyieithrwydd y cyfarfod, nid mympwy personol y Cadeirydd.

Arddulliau dysgu a sut y gallant ddylanwadu ar effeithiolrwydd datblygiad dwyieithrwydd.

Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod yna weithredu ar yr argymhelliad hwnnw a'r canlyniad yw'r sefyllfa anfoddhaol bresennol lle y mae dryswch ac ansicrwydd ynglŷn â dwyieithrwydd yn y Cynulliad a phenderfyniadau unigol yn cael eu cymryd gan unigolion y tu allan i fframwaith cyffredinol i'r corff cyfan.

Felly mae angen ymchwil i ganfod: - Manteision cognitif a chymdeithasol dwyieithrwydd; - Y ddelwedd sydd gan y Gymraeg.

Cyfrannwyd hefyd i drafodaethau pwyllgor llywio cenedlaethol hyfforddiant-mewn- swydd y Gymraeg, paneli pwnc CBAC, gweithgorau llywio data-bâs cenedlaethol NERIS a'r Asiantaeth Hyfforddi, a phrosiect datblygu dwyieithrwydd mewn addysg bellach.

Nodwyd eisoes fod grwp o bobl wedi bod yn gweithio mewn maes gwahanol i'r ddau draddodiad uchod yng nghyswllt astudiaethau dwyieithrwydd, a nodwyd fod y rhain yn gweithio o safbwynt perspectif gwrthdaro.

O hyn ymlaen bwriadwn ehangu'r ymgyrch i gynnwys targedau eraill sydd â pholisïau dwyieithrwydd annigonnol, ac sy'n dangos gwendidau'r Ddeddf Iaith a'r Bwrdd Iaith a grëwyd yn ei sgîl.

Wrth roi dwyieithrwydd gweithredol ar waith yn y Pwyllgorau, mae rôl y Cadeirydd yn allweddol.

Gall codi ymwybyddiaeth weithio ar ddwy lefel, sef y lefel affeithiol gyda'i hapêl at hanes, traddodiad a threftadaeth a'r lefel ymarferol gyda'i hapêl at swyddi, statws a dwyieithrwydd (yn enwedig yng nghyd-destun yr Ewrop newydd).

Ni ddylem adael i wrthwynebwyr dwyieithrwydd gael monopoli ar ddehongliad y geirynnau yma.

Trefnu a rheoli datblygiad dwyieithrwydd disgyblion a dysgu effeithiol o fewn sefyllfaoedd dwyieithog.

Fel y dadleuodd Cymdeithas yr Iaith yn ei dogfen Dwyieithrwydd Gweithredol, rhaid i'r Cynulliad ddatblygu polisi iaith cynhwysfawr ac integredig a sefydlu fframwaith i roi'r polisi hwnnw ar waith.

Bydd Richard Crowe, un o gyd - awduron y ddogfen Dwyieithrwydd Gweithredol hefyd yn cymryd rhan.

Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol.'. Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru.

Nid yw Deddf Iaith 1993 wedi gallu rhoi hawliau i'r Gymraeg na sefydlu dwyieithrwydd fel norm.

Yn ogystal â'r cymal ynglyn â'r amseru, ac yn y cyfarfod cyhoeddus olaf i drafod y Papur Ymgynghori fe ddatganodd y Grwp eu bod yn derbyn fod rhaid i'r dwyieithrwydd fod yno o'r dechrau, ychydig yn brin o fanylder ar y mater hwn oedd dogfen y Grwp.

Mae'n rhaid trawsnewid diwylliant dwyieithrwydd o fewn gwleidydda a llywodraethu os ydym am gael mwy na façade ddwyieithog i Adeilad y Cynulliad.

Daeth dwyieithrwydd i'r Wyddgrug gan ddwyn yn ei sgil ei ddrwg yn ogystal â'i dda.

Gweler Dwyieithrwydd Gweithredol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Hydref 1999.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Dylech geisio cael adborth gan aelodau'r Pwyllgor am y ffordd wnaethoch chi gadeirio'r cyfarfod o ran dwyieithrwydd.

Fel arfer, er mai'r iaith swyddogol yn unig oedd cyfrwng yr ysgolion uwchradd, dwyieithrwydd oedd y drefn yn yr ysgolion elfennol.

Gobaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw y bydd y ddogfen Arwain o'r Gadair fel ei rhagflaenydd Dwyieithrwydd Gweithredol a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn rhoi seiliau cadarnach i'r Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Nid drwy hap a damwain y daw dwyieithrwydd gweithredol yn realiti yn y Cynulliad.

Na fydd angen Tai Cymru gan y bydd cyfrifoldeb tai yn nwylo cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol; na fydd angen Quangos addysg gan y bydd yna system addysg annibynnol ac na fydd angen Bwrdd Iaith oherwydd y bydd deddf iaith fydd yn dod â dwyieithrwydd yn naturiol.

Dylid osgoi rhoi'r baich i weithredu dwyieithrwydd ar y bobl sy'n dewis siarad Cymraeg.

Da o beth fyddai i'r aelodau i gyd gael cwrs hyfforddiant mewn swydd er mwyn cyfarwyddo â deinameg dwyieithrwydd.

Mae bosibl hyd yn oed i'r Cadeirydd uniaith hyrwyddo dwyieithrwydd yn y cyfarfod.

I rai disgyblion bydd hyn yn golygu dwyieithrwydd llawn.

Gwrthwynebwn unrhyw awgrym y dylid cyflwyno dwyieithrwydd mewn dull graddol a chondemniwn unrhyw ymesgusodi rhag dwyieithrwydd cyflawn ar sail cymal 'rhesymoldeb' Deddf y laith Gymraeg 1993.

Yr unig beth Cymreig am HYDER yw eu dwyieithrwydd arwynebol a'u hawydd i wneud cymaint a phosib o elw allan o'u cwsmeriaid yng Nghymru.

Mae myrdd o rwystrau cyfundrefnol a seicolegol yn sefyll yn ffordd dwyieithrwydd gweithredol, ond gydag ymdrech drefnus y mae modd eu gorchfygu.