Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwyllo

dwyllo

Ni thynnai hwnnw chwaith ond chwech ar y tro er pob ystryw i'w dwyllo.

Sylweddolodd Denzil mewn pryd fod Dic yn ei dwyllo a diflannodd Dic gydag arian til y siop yn ei boced.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

'Roedd Doreen yn ddylanwad da ar Stan er ei fod yn dal i dwyllo yn y dirgel.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Ni chafodd pob mân greadur sydd am hel ei fol ym môn y clawdd ei dwyllo gan y coed.

Ceisiodd Lisa fyw gyda Dic am gyfnod ond 'doedd cyd-fyw ddim yn hanner cymaint o sbort ag affêr a chwalodd y cwbwl yn fuan wrth i Lisa ddychwelyd at Barry John a'i dwyllo yntau hefyd.

Ond doedd Ifor ddim yn mynd i gael ei dwyllo.

Bu'r sawl oedd yn ei ganlyn yn ceisio'i dwyllo drwy dynhau y gynffon o wagenni cyn ei fachu wrthynt, ac yna ychwanegu un neu ddwy atynt, fel na allai glywed cliciadau'r wagenni wrth iddo'u tynnu.

Ai ei lygaid oedd wedi ei dwyllo?

Mae'r tystion hefyd yn ymosod ar yr iaith, gan ddweud mai iaith ystrywgar amwys ydyw, yn galluogi'r Cymry i dwyllo'r awdurdodau (t.