Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dwys

dwys

Y mae achos fel hyn yn ddigon naturiol yn codi cwestiynau moesol dwys iawn.

I mi bu darllen y gyfrol yn brofiad dwys.

Wrth i'r gynulleidfa ganu mewn teimlad dwys y pennill syml hwn o Sŵn y Jiwbili:

Dymuna ffrindiau Mr Huw Williams estyn eu cydymdeimlad dwys â Mrs Williams a Bethan ar eu profedigaeth o'i golli mor frawychus o sydyn tra roedd y teulu ar eu gwyliau ar Ynys Creta.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i Douglas, y plant, ac i ddau frawd Mair, sef Howard a Penri a'r teuluoedd.

Erbyn hyn mae wedi cael llawer o driniaethau ac wedi wynebu cyfyngderau yn yr adran gofal dwys yn ysbyty PMH, RAF Halton, Bucks.

Colegau Addysg Bellach, Awdurdodau Addysg Leol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr sy'n gyfrifol am y cyrsiau darnynol, tra bo'n sefydliadau addysg uwch yn darparu cyrsiau dwys a chyrsiau uwch.

Ymgyrch y swffragetiaid yn dwysáu; Sylvia Pankhurst yn ymprydio, Emmeline Pankhurst yn cael ei chyhuddo o ymosod â bom ar gartref Lloyd George ac Emily Wilding Davison yn cael ei lladd wedi iddi ei thaflu ei hun dan draed ceffyl y Brenin yn y Derby.

Argyfwng Vietnam yn dwysáu wedi ymosodiad gan Ogledd Vietnam ar un o longau'r Unol Daleithiau.

Mae'r amrediad o anghenion addysgol arbennig yn eang iawn, ac yn amrywio o anawsterau dysgu cymharol fychan i anableddau dwys a lluosog.

Buont yn enau i'n cydymdeimlad dwys â Phegi, ei briod, teuluoedd y ddwy ferch Helen a Janet, ac heb anghofio ei frawd, Will.

Roedd un o storïau mwyaf dwys y flwyddyn, hanes dychrynllyd Josie Russell ond un sy'n rhoi hwb i'n gobeithion yn bwnc rhaglenni radio a theledu rhwydwaith: adroddodd Josie's Story yr hanes ar BBC Un a defnyddiodd BBC Radio 4 ddyddiaduron personol a theimladwy Shaun a Josie Russell yn Life with Josie.

Yn unol â hyn cawn yr Athro W J Gruffydd yn maentumio fod tri chyfnod yn hanes barddoniaeth pob gwlad, sef, i ddechrau, gyfnod barddoniaeth lwythol, yn ail, cyfnod ymledu pryd y derbynnir dylanwadau allanol, ac yn drydydd, cyfnod ymdeimlad cenedlaethol dwys, megis cyfnod Shakespeare yn Lloegr a chyfnod Goethe yn yr Almaen.

Cynhwysai nifer o gerddi rhyfel, yn gymysgedd o rai dwys grefyddol, rhai hiraethus-deheuol, ac un ffyrnig o feirniadol.

Mi fyddwch yn darllen yn y gyfrol hon, adroddiadau doniol a dwys am Charles Williams, yr actor ddiddanwr a'r cymeriad.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Ond wedi cyfnod o arbrofi dwys - "blwyddyn a hanner, a ninnau heb wybod i ba gyfeiriad yr oedden ni'n mynd" - ar ddamwain y trôdd at gerddoriaeth boblogaidd.

Y mae'r cerddi hyn gyda'u hangerdd dwys yn goffâd teilwng iawn hefyd i fechgyn ifanc eraill yn Uwchaled (a llawer ardal debyg iddi) a gollwyd yn y Rhyfel, a mab Penyfed yn eu plith.

Un o ser mwyaf disglair byd y teledu ar hyn o bryd yw'r gŵr dwys, pryd tywyll sy'n honni ei fod yn meddu ar allu goruwchnaturiol i ddefnyddio'r cyfrwng er gwella afiechydon ac anhwylderau o bob math.

Mae hi'n edrach yn ddigon hen." Edrychodd arnaf gyda chwrteisi dwys ac ailadroddodd yr hyn a ddywedodd ynghynt.

Ar ôl dwys ystyried y cwestiwn, penderfynodd llywodraeth Schroder y bydd awyrennau Airbus yn cael eu cynhyrchu ym Merlin cyn bo hir.

Dilynir y cyrsiau dwys cychwynnol gan gyrsiau uwch, boed yn ddwys neu'n cyfarfod unwaith yr wythnos.

Tactegau'r swffragetiaid yn dwysáu ac yn troi'n dreisiol.

Sonia am ddarllen y beirdd Lladin fel gwaith cartref yn ystod gwyliau'r ysgol a phrofi eu 'clasuroldeb dwys', ac wedyn troi at y llyfr Cymraeg newydd, a chael cymaint o bleser ynddo nes gadael 'ei Horas a'i Gatwlws ar y llawr, / Yntau ar newydd win yn feddw fawr'.

Mewn gair, nid mynd a darfod y mae unrhyw beth dwys yn ein hanes, a dwys yn sicr yw'r profiad lle bu.

Dylech fod yn dwys ystyried a fydd eich carafan yn cael ei defnyddio yn hwyr yn yr hydref a i mewn i'r gaeaf.

Ymgyrch y swffragetiaid yn dwysáu; Sylvia Pankhurst yn ymprydio, Emmeline Pankhurst yn cael ei chyhuddo o ymosod â bom ar gartref Lloyd George ac Emily Wilding Davison yn cael ei lladd wedi iddi ei thaflu ei hun dan draed ceffyl y Brenin yn y Derby.

Ar achlysuron emosiynol dwys trôi'r Cymry at y saint am gymorth.

Yn ôl yr FA, mae goblygiadau cytundebol a chyfreithiol dwys yng nglwm â'u statws proffesiynol.

Edrychai'n lliprynnaidd a digalon, a dychwelodd fy nghyfarchiadau mewn llais dwys ddifrifol.

Er bod teimladau dwys ac ingol y tu ôl i bryddest fuddugol L. Haydn Lewis, pryddest eiriog a chwithig ei chystrawen ydyw.

Yr oedd straen y Rhyfel a'i enbydrwydd wedi peri bod y milwyr yn holi cwestiynau dwys ynglŷn â phwrpas bywyd, ond nid oedd hynny wedi eu dwyn ronyn yn nes i'r Eglwys.

Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.

Ar yr un pryd nid rhywbeth mympwyol yw barn o werth, ond rhywbeth wedi ei sylfaenu ar ddarllen dwys a chatholig: nid yn unig darllen gweithiau gwreiddiol ond darllen ac astudio datganiadau beirniaid llenyddol yr oesau ynghylch natur barddoniaeth.

A chwythu mwg o gylch ei feddyliau dwys.

Ond pan ddaeth hi'n bryd noswylio, ac ar ôl i'r tyrfaoedd ymwasgaru, fe ddisgynnodd rhyw brudd-der dwys ar Idwal.

cyrsiau dwys: dosbarthiadau sy'n cyfarfod o leiaf dair gwaith yr wythnos ac am hyd at ddeuddeg awr yr wythnos mewn rhai achosion.