Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dybiaeth

dybiaeth

Dibynna'r drydedd dybiaeth, sef mai'r incwm gwladol sy'n pennu treuliant, ar egwyddor cyfranrediad, egwyddor sy'n ganolog i astudiaethau macro-economeg confensiynol.

Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.

Ateg i'r dybiaeth yw fod yn y Llyfr Coch gyfres o drioedd yn rhestru casbethau 'Gwilim Hir, saer Hopkyn ap Thomas.' Y beirdd a ganodd i Hopcyn ydoedd Dafydd y Coed, Ieuan llwyd fab y Gargam, Llywelyn Goch ap Meurug Hen, Madog Dwygraig a Meurug fab Iorwerth.

Y mae cysylltiad agos rhwng y tybiaethau sy'n ymwneud â buddsoddiant (iv) ac â phrisiau (v) a'r dybiaeth olaf (viii).

Byddai gollwng y ddwy dybiaeth gyntaf er mwyn cynnwys y sectorau ychwanegol hyn yn cymhlethu rhywfaint ar y model heb newid ryw lawer, ar yr wyneb beth bynnag, ar ei gasgliadau sylfaenol.

Yn y lle cyntaf, ni all model statig, diamser, ymdrin o gwbl ag un o'r problemau ymarferol pwysicaf sy'n wynebu pob pennwr polisi%au, sef problem amseru; ac yn yr ail le, yn groes i dybiaeth (vi), nid ydyw gallu cynhyrchu'r economi yn aros yn ei unfan hyd yn oed dros gyfnod cymharol fyr.

Arwyddocâd y ddwy dybiaeth gyntaf ydyw mai model dau sector yn unig a geir yn Ffigur I, sef sectorau unedau teuluol a chwmni%au busnes; a bod y galw cyfanredol, felly, yn cynnwys dwy gydran yn unig, sef y galw am nwyddau traul ar ran unedau teuluol (Treuliant), a'r galw am nwyddau cyfalaf ar ran cwmni%au (Buddsoddiant).

Y mae rhai o'r amheuon ynglŷn â gallu'r llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau cyflogaeth lawn yn deillio o'r ddwy dybiaeth sydd yn weddill sef (vi) a (vii).

Nid mater o dybiaeth athrawiaethol oedd trafod crefydd, felly, ond mater o fyw neu farw tragwyddol.