Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dychan

dychan

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?

Drama fydryddol rymus iawn ei dychan mewn mannau.

Ond ffurf israddol yw dychan, wedi'r cwbl, er gwaethaf y mwyniant hunangyfiawn a geir o'i ddarllen.

Nid drama ramantaidd o gwbl ond dychan yn debycach i anterliwt nag i ddim byd arall.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.