Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dychmygwch

dychmygwch

`Dychmygwch sut oedd y fam yn teimlo,' meddai, gan ysgwyd ei phen.

Dychmygwch y sioc a ges i pan ddarllenais i erthygl am lyfr Chapman Pincher am yr "Apostles''(y grŵp o ysbiwyr yn cynnwys Blunt, Burgess a Maclean) mewn papur Sul ychydig o flynyddoedd yn ôl a gweld llun o'r dyn y bum i'n rhannu swyddfa ag o yn eu plith!

Dychmygwch, er enghraifft, eich bod chi'n gallu hedfan ar garped hud i'r Arctig rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Ebrill.

Dychmygwch fy syndod, rai oriau yn ddiweddarach, o sylwi imi fod ar goll yn y nofel ers oriau.

Dychmygwch am eiliad eich bod wedi clywed Kate Crockett yn dweud wrth Branwen Niclas dros goffi yn y Cabin yn Aberystwyth ei bod nhw am fynd allan i beintio un o flychau post y dref yn binc llachar.

Dychmygwch beth fyddai canlyniad dibynnu ar ewyllys da yn hytrach na deddfwriaeth i amddiffyn yr amgylchedd.

Fel esiampl o broblem i'w datrys, dychmygwch fod yn rhaid teithio o amgylch Cymru i ddosbarthu'r rhifyn hwn o Delta, ac mai dim ond un cerbyd sydd ar gael i wneud y gwaith.

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

Dychmygwch am eiliad eich bod wedi cael eich ethol yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, neu'n arwain un o ymgyrchoedd y Gymdeithas.

Dychmygwch eich bod am brynu eitem mor bwysig a drud a chadair olwyn.