Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dychryn

dychryn

Roedd Sharon, fy chwaer fach, wedi dychryn am ei bywyd ac roedd hi'n crio.

Felly, yr oedd Ioan Evans yn mynd a'i deulu i'r capel ar hyd yr haf am flynyddoedd gan wneud rhyw dair lîg a croesi dwy afon, ac yn y gwanwyn pan fyddai'r eira yn dadmar ar y mynyddoedd, 'roedd yr afonydd yn codi, a chawsom fwy nag un dychryn wrth ei mentro, gan fod yn dŵr yn dod i fewn i'r cerbyd.

'Trio'n dychryn ni maen nhw,' meddai'r gweinidog.

Dau lanc ifanc yn mynd i garu Ar lan yr afon ar i fyny Sþn cacynen yn y rhedyn Trodd hwy adre'n fawr eu dychryn.

Gofynnais i wraig y llythyrdy beidio â'u hanfon tan ddydd Sadwrn er mwyn imi fod adref yng Nghroesor i'w derbyn - rhag dychryn Nel gyda'r fath faich o lyfrau.

Pe gwyddai'r plismyn ble'r oedd o, byddent wedi dychryn am eu hoedl.

Daeth y ddau Mephistopheles (Christian Bradshaw a Ben Addis) ag elfen o ddoniolwch manig i'r perfformiad, ond heb gollir dychryn sinistr.

Mae'n rhaid bod golwg wedi dychryn ar fy wyneb, gan yr âi rhai o'r bechgyn yn fwy hy arnaf, a llawer yn gweiddi, "Roi di gweir i mi?" Yn sydyn, cododd un bachgen ei law, a thaflodd fy nghap oddi ar fy mhen.

Nid disgybl mwy ofnus o'r môr ac o'r nos na'i gilydd a'i gwelodd, ond pawb fel ei gilydd, a gwaeddasant mewn dychryn gyda'i gilydd.

Doedd presenoldeb ein camerâu'n dychryn dim ar filwyr Israel.

Yr adrannau yn y traethawd yn delio â'r Purdan a'r Offeren a gynhyrfodd dynion y mudiad a dychryn ei gefnogwyr fwyaf.

Yna rhedasom i'r tŷ a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweud "Mae'r dynion wedi dod â'r elor i moyn yr angladd!" Yr oeddwn wedi dychryn ac wedi gwylltu, yn methu aros yn y tŷ ond yn ofni mynd allan rhag ofn bod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd!

Deffrôdd y gelyn mewn dychryn i glywed gwŷr Gideon yn dynesu gan weiddi 'Cledd yr Arglwydd a Gideon'.

A'r eiliad nesaf, neu felly yr ymddangosi hi, roedd Tom yn sefyll uwch ei phen Roedd ei gefn at y lleuad, ac ni allai hi wel ei wyneb yn glir - ond roedd ei lais yn ddigon i'w dychryn.

Roeddynt wedi dychryn braidd.

Dylech fod yn prynu dwy botel, ond peidiwch a dychryn gyda'r pris!

Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.

holodd mewn dychryn, wrth weld olwyn fawr o'u blaenau yn fôr o liwiau, ac yn troelli'n braf.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Aeth yn ôl i'r gegin a chlywed y sgrechian wedyn a llais Mary yn glir yn gweiddi mewn dychryn, 'Mae'n ddrwg gen i, ddrwg gen i.

Edrychai fel pe bai wedi dychryn.

Y byd yn dychryn o weld canlyniad y polisi o 'lanhau ethnig' yn Serbia.

Mawr oedd y syndod a'r llawenydd a'r siarad trwy'r gymdogaeth ar yr achlysur; ond yr oedd Robin y Glep, druan, fel wedi ei daro â dychryn a mudandod; yr oedd ei holl ddaroganau wedi profi'n gelwyddog.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

'Roedd y cyrchoedd awyr gan awyrennau'r Eidal a'r Almaen ar Guernika a mannau eraill yn Sbaen wedi dychryn y byd.

Ac mae iaith y Gymdeithas yn dychryn ein targedau; yn dychryn y bobl sydd ers rhai misoedd yn ffurfio eu llywodraeth fach eu hunain i gynnal y status quo.

Aeth Thomas cyn belled â phadog y cesyg magu i chwilio, ond y cwbwl a welodd yno oedd bod rheini wedi'u dychryn i ffitiau, eu llygaid yn llydan agored ac yn laddar o chwys pob un.

Taniodd y twll, ac yn eu dychryn rhuthrodd criw o ddefaid o'r cae gerllaw dros y wal bron ar gefn Evan Hughes.

'Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth heno,' meddai wrth Huw, 'i drio dychryn y ddynas 'ma a'i chael hi odd' 'ma.

Ond wrth fynd heibio i stesion Caernarfon, dyma drên yn gollwng chwibaniad uchel, a'r ceffylau'n neidio ymlaen mewn dychryn.

'Oeddach chi wedi dychryn?

'Mae'n ddrwg gen i 'mod i wedi dychryn a rhedeg i ffwrdd y noson imi'ch gweld chi ar y clogwyn.

Maen nhw wedi arwyddo cynnig yn y Tŷ Cyffredin i fynegi eu pryder sylweddol a'u dychryn" at benderfyniad Comisiwn y Mileniwm i roi £29m ychwanegol i'r atyniad.

Mae'r Frech Wen wedi dychryn pobloedd y byd ar droeon di-rif.

Ond erbyn cyrraedd y fan dywededig - "No chwe - chiw chol sei dawn chofyr dder!" - Er i mi edrych yn ofnus a chrefu "Por favor, senor" Gorfu i'r dosbarth fynd i lawr y llethr o rew - son am grynu, dychryn, chwysu'n oer a phoeth ac arswydo.

Cafodd fy nhad lety hefo Dic, ond un noson dyma hwnnw i mewn i'r tŷ ar frys a golwg wedi dychryn arno.

Mae un peth yn sicr: mae'r mediums, ac eraill erbyn heddiw, sy'n cael eu gwadd i drin ysbrydion mewn tai yn cael eu cadw'n hynod brysur, ac mae galw mawr amdanyn nhw i roi cymorth a chefnogaeth i'r nifer fawr fawr sy'n cael eu dychryn gan wahanol ysbrydion sy'n cyd-drigo â nhw.

Y ffilm Clockwork Orange yn creu dychryn.

Camodd Joni a Sandra'n ôl yn eu dychryn, ond chwyddodd y bwystfil gan ymddangos yn fwy, ddwywaith, nag o'r blaen.

Mewn dychryn mawr, gwrandawodd pob un o'r dawnswyr ar ddysgeidiaeth y sant, ac er mwyn eu cadw'n Gristnogion, torrodd Samson lun croes ar y garreg.

Yr unig ateb i'r cadwriaethwyr yn Affrica oedd dewis haid gyfan i'w difa, gan sicrhau nad oedd yr un creadur yn dal yn fyw rhag trosglwyddo'r dychryn i haid arall.

HELP!' Gollyngodd Mam y llwy de ar lawr yn ei dychryn a dechrau rhedeg i gyfeiriad y grisiau.

Creodd yr olygfa syndod a dychryn i'r rhai oedd yn bresenol.

Pwrpas y duo oedd dychryn unrhyw ysbrydion drwg oedd yn digwydd loetran yn y tir rhag iddynt effeithio ar y cnydau.

'Meddyg?' Roedd wedi dychryn.

Mae'n ddigon a dychryn rhywun.

'Nain?' gofynnais wedi dychryn.

Aeth at y cesyg magu, a hwythau yn yr un dychryn mawr.