Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dychwelodd

dychwelodd

Yn 1999 dychwelodd Stacey er mwyn paratoi ar gyfer ei harholiadau gradd ond daeth yn amlwg nad oedd gan Stacey unrhyw arholiadau a chyfaddefodd ei bod wedi gadael y coleg ers dwy flynedd.

Wedi cyfnodau o weithio yng Nghaerdydd a Bangor dychwelodd i'w gynefin i fod yn bensaer gyda phartneriaeth leol ym Mhwllheli.

Eithr ymhen ychydig ddyddiau bu cymodi eto, a dychwelodd at Ali a hwythau.

Daeth yma rai blynyddoedd yn ol o Bryn Mor, Llaneilian ac i Fynwent Llaneilian y dychwelodd.

Dychwelodd Stevens yn sionc i Sheffield neithiwr ac fe ddylai fod yn dawel hyderus ynglyn â'i obeithion yn y gêm.

Ym mlynyddoedd olaf ei oes dychwelodd i'w hen swydd yn Eglwys St.

Dychwelodd y gynulleidfa at Peter Karrie - Unmasked yn wythnosol ac mae'r gyfres wedi haeddu cael ei hail-gomisiynu.

Dychwelodd i Florida lle bu'n golchi llestri, gwerthu llaeth a gwerthu esgidiau cyn dod yn wr busnes llwyddiannus.

Toc dychwelodd Ifor â'r gwaith wedi ei orffan.

Gyda'r Diwygiad Efengylaidd dychwelodd yr hen wefr.

Wedi eu cyflwyno fel 'dwy ferch fach o'r ysgol eisiau help efo prosiect', dychwelodd y wraig at ei gwaith.

Wedi cael siwrnai seithug, dychwelodd Rolf i'r Almaen.

Dychwelodd adref i Fynydd Mwyn, troi llofft allan yn stiwdio, ac yno y bu yn paentio am y chwarter canrif nesaf.

Dychwelodd y ddau yn fuan a ganwyd mab, Robat Dilwyn, iddyn nhw yn 1983.

Fe'i ganed yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl bugeilio'r ofalaeth am oddeutu naw mlynedd, dychwelodd i Sir Drefaldwyn, oherwydd gwaeledd ei fam.

Er siom i Jabas, dychwelodd ei dad a'i ddau ffrind i'w gwaseidd-dra arferol pan gynigiwyd cwrw iddynt.

Dychwelodd Lisa unwaith eto a'r tro hwn penderfynodd fyw'n agored gyda Fiona.

Yna dychwelodd i'r ystafell, lle câi'r argraffwyr gwpanaid gyda'i gilydd, a'i firi yn ysgwyd ei de o'r cwpan i'r soser.

Ar y chweched o Fai, dychwelodd i Abergele unwaith eto.

Dychwelodd ryw ddwyawr yn ddiweddarach ac yr oedd Ali'n dal i sgwrio.

Yn 1999 dychwelodd eto i dreulio'r haf gyda Cassie a chafodd 'fling' gyda Dic Deryn.

Clywodd y gwr ble roedd hi a'i phlant yn byw a dychwelodd atynt.

Maddeuodd Ali iddi a dychwelodd y teulu am gyfnod byr i Gaerllion cyn symud i Heol Grafton, efallai er mwyn bod ymhellach oddi wrth demtasiwn Martin Charles.

Dychwelodd, gan weiddi dros y ffens oedd yn ein gwahanu fod yr awdurdodau'n mynnu tâl o gan doler cyn caniatŠu iddi groesi.

Y noson waethaf imi ei threulio 'rioed !" Dywedodd wrthyf am fynd i chwilio am y morwr ar unwaith iddo gael gair ag ef, ac wedi imi ddod o hyd iddo dychwelodd gyda mi.

Dychwelodd Stacey i Gwmderi am ambell wyliau ond prinhau wnaeth yr ymweliadau.

Bu yno am ryw dair wythnos ond dychwelodd ar ôl cymodi.

Dychwelodd i Gwrdistan yn yr haf y llynedd i weld ei deulu, ac fe'i diflaswyd yn llwyr gan yr erchyllterau a welodd yno.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Dychwelodd y canwr opera rhyngwladol enwog, Bryn Terfel, i'w wreiddiau i roi anrheg Nadolig i'r gwylwyr yn Canrif o Gân lle canodd rai o ganeuon ei ieuenctid, gan gynnwys cerdd dant a fersiwn o Hen Feic Penny Farthing Fy Nhaid.

Ymddeolodd yntau o'r mor tua'r un adeg ag y dychwelodd Snowt o Lundain, a chan eu bod yn dioddef o'r un syched, aeth y ddau'n dra chyfeillgar, a phan drowyd Sam dros yr hiniog gan wraig ei lety rhannodd Snowt ei lety gydag ef.

Dychwelodd Emma i Gwmderi a chwalwyd ei byd unwaith eto wrth iddi ddarganfod fod Diane wedi bod yn anffyddlon i Reg.

Dychwelodd Sab ar gyfer priodas Maggie Post yn 1988.

Dychwelodd eto yn 1999 ac unwaith eto daeth i aros at Denzil.

Dychwelodd Stacey drachefn ym mis Tachwedd 1999 - 'roedd Kath a Dyff angen ei help i achub busnes y Deri.

Dychwelodd Dic yn 1987 wedi gwneud digon o arian i ddechrau ei fusnes sgipiau ei hun a buan y cyflogodd ei hen ffrind, Denzil.

Edrychai'n lliprynnaidd a digalon, a dychwelodd fy nghyfarchiadau mewn llais dwys ddifrifol.

Dychwelodd Huw Edwards, cyflwynydd Six O'Clock News, i'r radio gan siarad ag amrywiaeth o bobl a ddaeth i'r amlwg mewn penawdau newyddion.

Dychwelodd ar ôl Nadolig 1998 ond twyll oedd y cwbl a gadawodd ar ôl dwyn arian o 'safe' y caffi.

Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau.