Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyddio

dyddio

Keint oedd enw Henry Rowlands arni hefyd, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau ati yn yr archifau sydd yn dyddio o'r cyfnod hwn yn defnyddio'r llythyren flaen k.

Os astudir rhannau hynaf y blaned Goch fe sylwir ar olion sianelau afonydd yn ymdroelli hyd-ddynt a gellir ei dyddio'n ôl i adeg y mynyddoedd tanllyd actif.

Dogfen hanesyddol yw hon yn dyddio yn ôl i ddyddiau Glyndŵr.

Dyma awdures sydd wedi creu byd o gymeriadau na fydd yn dyddio.

'Roedd yr EP, Yr Unig Ateb! gan Ty Gwydr ym 1990 yn gwbl wefreiddiol ond, yn naturiol, mae'r gerddoriaeth wedi dyddio erbyn hyn.

Mae cannoedd o garolau plygain sy'n dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dal yn boblogaidd heddiw.

Croeso cynnes a chyfeillgar mewn ty nodweddiadol yn dyddio o'r ganrif ddiwethaf wedi'i leoli yn y stryd fwyaf traddodiadol yn Y Gaiman, Patagonia.

Sail nifer o greigiau gwyrdd a phiws, creithiog fel cestyll adfeiliedig, yng nghanol y tywod sydd ymysg creigiau hynaf Cymru, yn dyddio o'r cyfnod cyn Gambriaidd.

Mae ei grymoedd yn ehangach na phwerau ein Cynulliad ni, ac mae eu deddf iaith bresennol, sy'n dyddio o 1982, yn gryfach na Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd, os nad cynt, gyda mosgs a phalasau wedi'u cerfio i mewn i'r graig.

Mae'r eitemau'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn.