Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfalu

dyfalu

(Mae'r un peth yn wir am y dyfalu a fu ynghylch agwedd Gwen at John Phillips, y pregethwr a fu'n gyfrwng ei hargyhoeddi.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r gwyliwr gartref yn gorfod bodloni ar funudau lawer o broffwydo, doethinebu a dyfalu.

Ond, fe all globwll hefyd olygu "pwll glo% yn yr ystyr cyffredin wrth gwrs ac anodd iawn fyddai ceisio dyfalu beth yn union yw ystyr yr enw Globyllau yn Aberteleri a Sain Ffagan.

Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.

Edrychodd arno gan geisio dyfalu pam roedd Edward Morgan wedi ei adael yno.

Roedd e'n dyfalu beth yr oedden nhw'n feddwl amdano am fod golwg trafferthus neu ofidus ar wynebau pob un.

Dyma gyfle arbennig i chi geisio dyfalu pwy yw perchennog y llais cudd yng nghystadleuaeth Adnabod y Llais.

Pan ddywedodd yr Iesu wrth y disgyblion i fod e'n mynd i baratoi lle iddynt, a'u bod nhw'n gwybod y ffordd, a'r lle 'roedd e'n mynd, a thra oedd y gweddill o'r disgyblion yn meddwl dros y peth, yn pwslo ac yn ceisio dyfalu beth i'w ddweud, Tomos oedd yr un, y very one a ddwedodd wrtho yn blwmp ac yn blaen nad oedden nhw ddim yn gwybod o gwbwl, y ffordd na'r lle.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.

Wrth weld unrhyw fargen, dylem fod yn ceisio dyfalu pam tybed fod y gwerthwr mor awyddus i gael gwared a'r garafan os yw hi mewn cystal cyflwr ac y mynn ei bod.

Rhaid i ni oedi i ystyried y ddogfen eithriadol hon, a cheisio dyfalu'r effaith a gafodd ar ei chynulleidfa wreiddiol.

Cyhoeddir yr enwau yfory ac y mae'r dyfalu'n dwysau.

Dyna paham mai creadigaeth pechod a man geni heresi ydi pob tre.' Ni allai Ieuan Ddu lai na dyfalu be oedd gan hwn i'w wneud â llosgi eglwys Dolbenmaen, ond roedd ei lygaid yn goch gan flinder a'i goesau'n gwanio oddi tano.

Ddoe, ddydd Llun, roeddwn i'n dyfalu pa stori a gawn i'r tudalen blaen yr wythnos hon pan gofiais fod arddangosfa o waith plant hynaf Yr Ysgol Gyfun wedi ei threfnu gan Aneirin Rees, yr athro arlunio, a'm bod wedi addo iddo yr ysgrifennwn erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

Pan fydda i'n sgwennu hwn gartra, mi fydda i'n medru edrach allan drwy'r ffenast, a gweld yr haul yn mynd i lawr, a dibynnu beth fydd 'i liw o, a lliw yr awyr, mi fydda i'n dyfalu sut ddiwrnod fydd hi fory.

Allwn i ddim dyfalu sut y cyrhaeddodd rhai ohonynt eu ffau anghysbell, heb sôn am allu uniaethu gyda'r arswyd a oedd wedi eu cymell i fentro.

Wrth orweddian yn y bath ni allai lai na dyfalu beth a wisgai Hannah ac Elsbeth.

I ateb y cwestiwn bwn, y mae'n rhaid dyfalu beth fyddai wedi digwydd petai'r llywodraeth heb ymyrryd, a chymharu cwrs tybiannol yr economi yn absenoldeb ymyriad llywodraethol â chwrs hanes.

"Mae Cyngor y ddinas yn trio ond dydech chi ddim yn ennill pleidleisiau trwy helpu'r digartref nad ydych?" All o ddim ond dyfalu beth sy'n mynd trwy feddyliau y bobl hynny fydd yn ddigartref dros y : feddy "Un o nodweddion amlycaf y digartref yw anobaith.

Mae car arall yn tarfu ar y dyfalu - gwleidydd y tro hwn - Paul Murphy, yr Ysgrifennydd Gwladol.

Eisteddwn wrth dân y gegin yn ysmygu, ac yn dyfalu beth a ddaethai o'm cyfaill Williams.

Ni ddychmygodd fod rhai wedi bod ar eu traed drwy'r nos yn Nhraethcoch yn dyfalu ble 'roedd e, ac yntau'n cysgu'n braf yn Llydaw.

Bu dyfalu brwd beth oedd pwrpas Clint yn Ogof Plwm Llwyd.

Gellir dyfalu.

Fe gafodd ei honiad hi ei gynnwys yn yr adroddiad, er mai dyfalu yr oedd hi.

O'r fan honno i'r pentref ni fu diwedd ar y siarad a'r dyfalu.

Mae'n amlwg fod y gyfres ysgubol o linellau sy'n dechrau â 'fy' yn y pedwerydd paragraff yn tynnu ar dechneg dyfalu, lle byddai bardd yn rhestru pethau a oedd yn geffelyb i'r gwrthrych.

meddyliodd Joni, gan geisio dyfalu.

Ond mae'n wahanol i ddyfalu, ac yn ddarn cwbl unigryw, am fod priodoleddau haniaethol yn fwy blaenllaw na'r elfen o ddychymyg gweledol sy'n arfer bod mewn dyfalu.

Mae dyfalu mawr ai Graham Henry, hyfforddwr tîm rygbi Cymru, fydd hyfforddwr tîm y Llewod fydd yn teithio i Awstralia yr haf nesaf.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Eraill yn dyfalu mai ef oedd Tom Jones ac mai jôc oedd y cyfan.

A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.

Nid oedd y gweithwyr yn cael eu cyflog yn llawn ddim un wythnos, dim ond dyfalu faint o gynnyrch yr oedden nhw wedi wneud.

Ond pan lewyrchodd y goleuni i'w chyfeiriad gwyddent eu bod wedi dyfalu yn iawn.

A chredaf fod rhai wedi dyfalu.

Yn ystod y drafodaeth byrdwn cyfraniad rhai o'r aelodau oedd adrodd hanesion a dyfalu am hynt a helynt yr iaith yn eu hardaloedd eu hunain.

Ond byddai'n aml yn dyfalu a oedd ensyniad Dilys yn fwriadol ai peidio; ac felly ar sawl achlysur arall.