Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfiant

dyfiant

A yw'r cynllun o dyfiant sydd ynddo yn helpfawr yn ieithyddol?

Wrth i'r silt waddodi a llenwi'r cilfachau ac yna wrth i dyfiant organig a malurion gau am ffurfiad y llongddrylliad bydd yn cael ei selio a'i hamddiffyn rhag chwalfa bellach.

Mae prinder adlodd i besgi wyn ar ambell ffarm ac mae eraill, lle bu gwrteithio am ail dyfiant, yn ceisio ennill crop ychwanegol o silwair yn yr hydref.

Beirniadwyd y ddisgyblaeth allanol yma yn aml am iddi fod yn 'allanol', a hefyd am ei bod yn rhwystro'r economi rhag rhuthro ymlaen i gyrraedd rhyw nod dymunol o dyfiant.

Fodd bynnag, sylwyd gyda'r ddau hyn nad oedd hynny'n digwydd, a'r rhesymeg tu ôl i hynny oedd fod yr haen o lwch llif yn cadw gwres yr haul rhag treiddio i mewn i'r ddaear a'i chynhesu a symbylu bacteria i gyflawni eu gwaith o gynhyrchu yr elfen nitrad sy'n gyfrifol am greu swm o dyfiant.

Yr un fuasai'r effeithiau ar lwyni addurnol hefyd sydd a'u tlysni yn nhyfiant y flwyddyn bresennol megis BUDDLEIA DAVIDII, CORNUS RHISGL COCH, HELYG ADDURNOL, ac eraill, neu lwyni a blodau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol megis RIBES (cyrens blodeuo), ambell SPIREA ac ambell BERBERIS, a.y.b.

aros fel glas- wellt y borfa heb dyfiant yn ystod yr oerni, gwywo uwchben y pridd fel danadl poethion, neu gysgu'n flagur tew o fwlb dan y pridd.

Gall fod yn gwrs awdurdodol a gymeradwyir gan y Llywodraeth, ond os yw'n esgeuluso y tyfiant organaidd hwn - pa dyfiant bynnag arall a geir - yna, mae'n mynd i fod yn flêr ac yn wastraffus.

Wrth deithio'n ôl, sylwais ar fwg hyd y llechweddau o amgylch, lle'r oedd ffermwyr yr ucheldir yn llosgi hen dyfiant o wellt a rhedyn crin a bonion grug ac eithin.

Mae digonedd o dyfiant ar y graig o ynys fechan dafliad carreg i ffwrdd, ond allan o gyrraedd dannedd y defaid a'r geifr.

Pe gwireddid y stori mawn yma buasai'n ddoeth inni fod yn fwy gofalus o gynnwys y bagiau gyfu (growbags) ar ôl i dyfiant y cnydau haf ynddynt orffen.

Mae rhannau eraill yn amlwg yn dir pori gyda defaid a gwartheg yn bwyta'r olaf o dyfiant yr haf.

Drwy dyfiant technoleg, rhannwyd y byd.

Cododd hyn wrth gwrs am fod tywydd mwyn y gaeaf wedi cynhyrchu mwy o dyfiant glaswellt o lawer nag sy'n arferol.

Ystyriai'r ffermwyr bod yna ddigon o dyfiant porfa bellach a gyrrwyd y defaid a'r wyn i'r mynydd.

Mae 'na dyfiant mawr yn yr ochr ariannol o'ch siart o'r wythnos hon ymlaen - am flwyddyn i ddod.

Ni pharhawyd i wneud hynny yn arbennig gyda'r ddau gyntaf enwais, gan eu bod yn cynhyrchu ei ffrwythau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol, hwnnw yn cael ei docio ar ôl ffrwytho gan ddisgwyl fod digon o dyfiant newydd yn cael ei gynhyrchu bob haf, trwy wrteithio priodol, i gymryd ei le.