Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfnhau

dyfnhau

Ar sail y cyfoeth sy'n deillio o ddwy iaith hynafol, rhydd addysg Gymraeg gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a dyfnhau eu profiadau.

"Rwy'n gobeithio codi a dyfnhau eu hymwybyddiaeth o genedligrwydd," meddai.

Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.

ffordd y mae'r defnydd hwnnw'n gallu dyfnhau'r ddealltwriaeth bynciol c.

'Ni cherddaf....Ni chwarddaf' yn dyfnhau negyddiaeth y nos i'r bardd yn ddwys iawn, a hynny'n cael ei datrys braidd yn gynganeddus mewn bodlonrwydd anuniongyrchol 'draen...heb wrid y rhos,' 'gweaf....gwyw'.

Brithir y dogfennau â chyfeiriadau o bob math at ymateb y Wyniaid i'w hamgylchfyd a chyfnewidiadau arbennig y cyfnod, a'r gorchwyl pennaf iddynt oedd ceisio dyfnhau'r ddelwedd arbennig honno a'u clymai wrth yr haen fonheddig yn Lloegr.

Effaith hyn fydd ehangu a dyfnhau ei swyddogaeth gysylltiol, fel y llunnir adroddiad blynyddol sy'n dangos y modd y dyrennir cyllid, i wahanol swyddogaethau'r Grwp, fel y gall asesu'r pwysigrwydd a roddir i faterion yr amgylchedd, mewn perthynas â galw parhaus cymdeithas am fwynau, a mabwysiadu côd arfaethedig yr Adran ar ymarfer da.

Diau bod rhesymau cymhleth am hynny, ond gyda golwg ar byllau afon dylid cofio fod y nodweddion a enwyd gynt hwythau yn cael eu dileu, gan gynlluniau traenio sy'n golygu clirio a dyfnhau rhedfa'r afon.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Y tu allan, a'r gwyll yn dyfnhau, dydw i ddim yn credu fod unrhyw ffyrdd go iawn yn cysylltu'r pentrefi a'i gilydd.