Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfodd

dyfodd

Pan dyfodd yn llanc yr oedd arno eisiau cariad, ond yr oedd bechgyn y Llan yn fwy medrus o lawer nag ef yn hyn.

Ac os bu rhaid i'r plentyn fod yn ofalus o'i iaith, fe dyfodd yn hynod o aeddfed mewn byr amser.

Fe dyfodd yn arfer iddo ef fynd i'r ystafell ymolchi o'i blaen hi a rhoi cnoc ar ddrws yr ystafell wely fel arwydd ei fod e wedi gorffen yno, cyn iddo droi i'r ystafell fyw i gysgu.

Ni ddylid rhoi gormod o goel ar bob traddodiad ynglŷn ag adeiladu'r eglwys gyntaf oherwydd chwedlau yw llawer ohonynt, rhai a dyfodd yng nghwrs y canrifoedd.

Nid ar unwaith yr enillwyd hyder gan na darllenwyr nac ysgrifenwyr pan ddaethpwyd i gyfansoddi stori%au ysgrifenedig, ond datblygodd llenorion Ffrangeg diwedd y ddeuddegfed ganrif ddull ymwâu themâu ac anturiaethau a dyfodd yn ddyfais naratif tra chywrain yng ngweithiau rhyddiaith y ganrif ddilynol.

Cymdeithas a dyfodd yng nghwrs hanes yw'r genedl Gymreig.

Ond 'rwy'n siwr y bydd yr aelodau o'r gymdeithas glos a dyfodd o'i gwmpas yn Nhalgarreg dros nifer o flynyddoedd, yn diolch am byth am y fraint o gael ei adnabod.

Gallai Eglwys Loegr wneud cynhaeaf bras o'i hynafiaeth, ac yn enwedig felly'r rhai a bleidiai egwyddorion Mudiad Rhydychen, gan fwrw sen ar yr enwadau Ymneilltuol fel rhyw chwyn crefyddol a dyfodd yn ddiweddar.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.

Mae yno restr hir o bobl ddigartref yn barod - rhestr a dyfodd o 571 yn 1996 i 800 yn 1999.