Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfodiad

dyfodiad

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Penwythnos Addysg Wleidyddol yr wythnos hon (Ionawr 15-17) fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer dyfodiad y Cynulliad.

Mae Caerdydd, ers dyfodiad arian mawr Sam Hammam, yn mynd o nerth i nerth.

Mae darpariaeth Anghenion Arbennig cymdeithasau tai wedi newid yn fawr iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda dyfodiad darpariaethau a chanllawiau dylunio newydd Tai Cymru, a newidiadau i'r system gyllido.

Yr wythnos hon maen nhw'n dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig yn yr Unol daleithiau.

'Teimlem', meddai OM Edwards ymhellach, 'mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig, ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen'.

Ond, gyda dyfodiad y Gair mewn person i'r byd, adnewyddwyd y prosesau hyn o ran eu grym a'u pwrpas.

Nid oedd pethau'n edrych yn obeithiol o bell ffordd, yn enwedig wrth i lyngeswyr, a oedd yn barod i fyw yn ôl yn y dyddiau cyn dyfodiad yr awyren, anfon dwy long ryfel fawr gyda'u miloedd o forwyr i gael eu chwythu allan o'r dŵr rywle ym mhendraw'r byd.

Teimlem mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen.

Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.

Mae'r aelodau'n parhau i deimlo nad yw rhaglennu rhwydwaith y BBC yn gwasanaethu Cymru gyfan yn ddigonol, ac mae dyfodiad datganoli yn cynnig sialens newydd i adlewyrchu ac i wasanaethu Cymru a'i thalentau ar wasanaethau rhwydwaith.

Yn wir, ymddengys y defnyddir mwyfwy o bapur yn sgîl dyfodiad Technoleg Wybodaeth, a hynny'n aml yn bapur ffres.

Mae'r ddwy bennod gyntaf yn egluro'r newidiadau economaidd, cymdeithasol a thechnegol - lawn bwysiced â dyfodiad teledu lloeren oedd yn gwneud gwasg Gymreig yn bosib, a bywoliaeth fel newyddiadurwr yn barchus os nad llewyrchus (efallai mai fel arall yn union mae hi heddiw).

Agorwyd yr ogof yr wythnos yma ar ôl ei chau er dyfodiad y dyn gwyn.

Gyferbyn a'r Rex lleolir siop y Valley Videos ac yn oes mwy unigolyddol y peiriant fideo aeth y sinema gyhoeddus ar i lawr (er bod arwyddion o ddadeni diweddar yn ei hanes gyda dyfodiad y system multiplex o America lle ceir ffilmiau, bariau, clybiau a bwytai oll o fewn yr un adeilad).

Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol.

Bu cynnydd hefyd yn yr oriau hyfforddiant mewnol gyda dyfodiad staff prosiectau newydd ynghyd a staff craidd.

Dyfodiad grym newydd i mewn i'r bywyd dynol, hynny yn unig, a allai arwain i adferiad.

Owen at hynny drwy wrthgyferbynu'n weladwy y gweithdy bler, siafins-ar-lawr, coesau-doliau-ar-goll, efo'r gweithdy glanwaith mecanyddol ar ol dyfodiad y Ferch.

Ar y llaw arall, daeth y Gymraeg yn llawer mwy gweladwy a bu dyfodiad yr ysgolion Cymraeg yn ddatblygiad rhyfeddol.

Mae'r Americaniaid yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig i'w gwlad yr wythnos hon.

Felly yr oedd dyfodiad y Gair yn gnawd dynol yn cyhoeddi fod Duw yn ailadrodd proses y creu.

Gwell fyddai i'r garddwr yng Nghymru baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion hyn ym mis Mai ac aros nes dyfodiad Mehefin cyn eu plannu allan.

Y merlod hyn oedd yn tramwyo'r llethrau moel cyn dyfodiad y defaid.

Ers dyfodiad y Cynulliad cenedlaethol bu rhywfaint o dro ar fyd.

Cofio pobl am y tro cyntaf yn cael rhywfaint o arian sylweddol i'w dwylo gyda dyfodiad gwaith yr Atomfa.

Dengys Wynn hyn eto wrth drafod dyfodiad Maredudd o Grug gyda'i deulu i Eifionydd a oedd yn llawn anniddigrwydd ac anghydfod tylwythol.

Hyderwn ein bod wedi cael y moddion gorau i roddi mantais i'r holl fyfyrwyr Cymreig i gyfarfod a'u gilydd yn Rhydychen; a gallwn sicrhau y caiff myfyrwyr newydd groeso calon, a doethineb profiad yr hen aelodau, a gŵyr myfyrwyr mor werthfawr ydyw hwn, ar eu dyfodiad yma.

Ymhell cyn dyfodiad y KKK roedd denu a chadw nawdd yn creu problemau dyrys i olygyddion a newyddiadurwyr.

Bu dyfodiad teledu yn y pum- degau'n ddaeargryn ddiwylliannol fwy nag a ddychmygodd neb ar y dechrau.

Gyda dyfodiad y Cynulliad y mae mwy o alw nag erioed am fudiad cryf i sefyll dros hawliau ieithyddol a chymunedol Cymru a Chymdeithas yr Iaith yw'r unig fudiad sy'n ymgyrchu'n radicalaidd gyda phobl a chymunedau Cymru.

Gyda dyfodiad JE i Gaernarfon a sefydlu Swyddfa'r Blaid yn y dref agorwyd pennod newydd yn ei hanes.

Cyn dyfodiad y clwy Myxomatosis yr oedd y wlad yn gyffredinol wedi ei goresgyn ganddynt ac yr oedd miliynau yn cael eu dal a'u gwerthu - eu trapio a'u maglu lawer ohonynt, ac oherwydd hynny yr oedd eu gelynion naturiol megis bronwennod, gwenci%od, ffwlbartiaid, cathod a chŵn hwythau yn cael eu dal.

Cyn dyfodiad y dyfarniadau newydd hyn byddem yn cau carchardai ac yn agor capeli.

Mae rhai o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant wedi cael eu hanfarwoli ar deledu ers dyfodiad S4C ac mae Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch yn gyfarwydd i blant ledled y byd erbyn hyn trwy werthiant tramor y cyfresi.

Er hynny, digon o waith fod y Gymdeithas wedi cyflawni'r ail ddiben y sonia OM Edwards amdano, sef 'cyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen, oblegid er bod rhai o'r aelodau, ac OM Edwards yn arbennig yn eu plith, wedi ceisio gwneud hynny, ni wnaeth y Dafydd fel cymdeithas nemor yn y cyfeiriad hwn, a hynny, mae'n debyg, oherwydd mai cymdeithas fechan y bwriadwyd iddi fod, ac mai cymdeithas fechan fu hi ar hyd y blynyddoedd cynnar, beth bynnag am y blynyddoedd diweddarach.

Roedd y rhai llygadog yn ame cyd-ddigwyddiad dyfodiad Madog i'r pentre a'r ergyd a gafodd Mrs Morris ar 'i chalon - gan awgrymu i Madog ddod a'r hen wraig wyneb yn wyneb a rhywbeth o'i gorffennol a bod Luned yn 'i briodi fe er mwyn iddo fe gadw'i geg ynghau.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.