Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfrllyd

dyfrllyd

Ond peidiwch â thynnu wyneb hir þ 'dydw i ddim yn bwriadu ymdrin rhagor â'r pwnc dyfrllyd hwnnw.

Ac ar ben hynny, coch a dyfrllyd oedd dwy lygad hwn, fel pe dioddefai'n enbyd ac yn gyson o'r fffliw.

Cymysgedd dyfrllyd o olew, siwgr a blawd soya yw'r prif bryd.

Blasus oedd y peint uwd yn y bore a'i gynhesrwydd yn treiddio trwy'r gwythiennau a'r ymennydd, ac amheuthun oedd y cig lledr, y pytatws llygredig a'r pwding reis dyfrllyd.

Credir i'r eira, a fu'n gyfrifol am ffurfio capan mor enfawr, ddisgyn o gymylau o fewn atmosffer llawer gwlypach a thewach ei naws na'r atmosffer presennol a chesglir mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol a allai gynhyrchu anwedd-dyfrllyd o'r fath ac i'r un graddau fyddai cefnfor anferth.

Ar y dechrau mae'n ddigon dyfrllyd, ond gadewir iddo anweddu a thwchu, ac fe'i potelir a'i werthu yn ddigon drud.

Trodd y ddau grychydd eu hwynebau tua'r gorllewin ac ymhen dim o amser dyma'r 'weilgi frigdonog yn dyfod i'r golwg ac am foment meddyliodd yr hen frawd mai 'dyfrllyd fedd' fyddai ei dynged.

Cynefindra a dieithrwch - dyna begynnau'r profiad o dreulio ychydig wythnosau yn y bryniau sy'n gorwedd i'r de o afon Brahmaputra yn Assam ac i'r gogledd o wastadeddau dyfrllyd Bangladesh.