Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfroedd

dyfroedd

Arhosa'r ceiliogod yn y dyfroedd croyw rhwng saith a naw mlynedd.

Ganol haf, a'r haul yn taro'r dyfroedd, ni welwch las tywyllach, disgleiriach, yn unman, ond heddiw llwydaidd, iasoer ydoedd.

Ond i fyny'r afon i'r dyfroedd oerion y daw'r eog a'r brithyll a chladdu eu wyau yn y graean.

Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.

Yr oedd Pakistan mewn dyfroedd dyfnion â'r sgôr yn 64 am dair wiced.

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Fe allai capten Abertawe, Scott Gibbs, fod mewn dyfroedd dyfnion, hefyd.

Yn ei sgwrs radio â Saunders Lewis, mae'n cyfeirio at adolygydd o Sais a ddywedodd amdani - 'Mae ei thristwch fel ochenaid hir ar draws y dyfroedd' - gan ychwanegu bod 'rhywbeth mwy tu ôl i ochenaid wedi'r cwbl.' Cawn T.

bachgen, ddim mwy na naw neu ddeg oed, fe dybiai, yn gafael yn dynn a 'i ddwy law mewn dyrnaid o frigau digon bregus yr olwg arnynt, a 'r rhan fwyaf o 'i gorff bychan yn cael ei chwipio 'n gyson gan ruthr y dyfroedd o 'i amgylch.

Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.

Gallaf gydymdeimlo â chyfieithwyr yn yr Alban a fu mewn dyfroedd dyfnion yn ystod trafodaethau'r senedd yn diwygio Cymal 28 yno.

gofynnodd wil, a sylweddoli ar ôl gweld gethin yn edrych yn hurt arno na fedrai neb nofio mewn dyfroedd fel hyn.

Erbyn i'r chwarae orffen ddiwedd y dydd yr oedd Sri Lanka mewn dyfroedd dyfnion ar 98 am chwech.

Coel arall yw i Idwal fab Owain Gwynedd gael ei luchio i'w dranc i'r dyfroedd oer.

heb betruso dim dringodd yn eon i ganol canghennau agosaf yr helygen, ac oddi yno fe 'i gollyngodd ei hun i lawr nes cael ei ddwy ar y gangen fawr uwchben y dyfroedd gwyllt gwyllt paid a bod yn ffŵl ^ l, ffred, gwaeddodd wil arno arno mae 'r afon 'na 'n ddofn cofia !

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau% Dirwynai'r angladd yn araf ar hyd llwybr cul mynydd fel sarff drist ar ei thor.

Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.

Yr adeg o'r flwyddyn, pan ymddengys fel petai'r afon yn troi'n ôl ar ei hub, dyma achlysur yr þyl enwog, La Fete des Eaux, (Gþyl y Dyfroedd), pan fydd pawb mewn hwyliau da'n dathlu'r cynhaeaf a'r cyflawnder o bysgod.

(f) Mae modd profi'r dyfroedd heb rwymo'n hunain i lwybr arbennig - gallwn droi yn ôl, heb i hynny fod yn drychineb, ac yn wir yn aml cawn elw o'r fath brofiadau.

Harold Macmillan yn cynhyrfu'r dyfroedd yn Ne Affrica gyda'i araith 'wind of change'.

Cynghorwyr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau cefn gwlad Cymru a dyfroedd ei glannau.

Mae ymholiadau Flood a Moriarty yn parhau, a bydd egwyl yr haf yn tawelu'r dyfroedd gwleidyddol.

Credai'n ddiau nad lle nofelydd oedd cynhyrfu'r dyfroedd politicaidd, ac mai nofel sal fyddai honno a ddarluniai bethau yn ol rhyw ideoleg wleidyddol ddu-a-gwyn.

Mae'r llyfr bach hwn yn cynnwys nifer o enghreifftiau o'i waith fel cyfieithydd emynau, yn eu plith gyfieithiad nodedig o dda o 'Dyfroedd Bethesda' Thomas William.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.

Dwi'n meddwl mai cyfraniad Cymdeithas yr Iaith i'r frwydr boliticaidd ydi cynhyrfu'r dyfroedd.

Ac mae'r beirdd wedi bod yn brysur yn corddi'r dyfroedd hefyd wrth gwrs.

"Ceisiwch, medd Rhigyfarch, "y ffynhonnau dyfroedd a dyrr eich syched, dyrchefwch eich llygaid i fyny, a gwelwch y ceinder a'r harddwch sydd fry.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

Maen debyg y bydd yn rhaid iddo dawelur dyfroedd gan fod rhai o aelodaur Undeb yn flin iawn nad aeth Pwyllgor y Llewod drwyddyn nhw, a mae'r cynta glywson nhw fod Henry wedi cael cynnig y swydd oedd yn y Wasg ar cyfryngau.

Ond ni a bwyswn, y dydd hwn, ar addewidion dy Air - Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi, a thrwy yr afonydd fel na lifont drosot.

ie, llais rhywun, heb os nac oni bai, o gyfeiriad yr afon, a chlywodd ef ddwywaith, deirgwaith rhwng taranu gwyllt y dyfroedd, o rywle y tu isaf i 'r bont.

yr oedd gweld y dyfroedd yn ffromi tros glogwyni a arferai sefyll yn uchel ar ganol yr afon, a syllu ar gerrynt a throbyllau nas gwelsant o 'r blaen, yn ddigon.