Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfu

dyfu

Ganddo ef nid coeden gyraints duon fyddai'r goeden ond coeden dyfu perlau, a masnachwyr perlau Llundain wedi gwisgo colyn llidiard yr ardd i lawr i ddim, gan amled eu mynd a dod i gyrchu'r perlau dihysbydd hyn.

Mae llysiau'n awchus am borthiant, a chymerant lawer o'r maeth o'r pridd wrth iddynt dyfu.

Fel y bydd y cnydau'n datblygu, ni fydd lle i'r chwyn dyfu a bydd y gwaith hofio'n lleihau.

Yn ôl John Cottle, sydd wedi plannu hadau GM ar ei fferm yn Sealand, mi fydd o'n parhau i dyfu'r corn nes y bydd yn cael cyfarwyddyd gan y Cynulliad neu lys barn.

Crefft sy'n allweddol i ymchwil o'r fath yw honno o dyfu crisialau.

Mae Ewrop wedi rhoi hawl i dyfu'r corn GM a gall felly ei dyfu fel arbrawf yn unrhyw le ym Mhrydain.

Plentyn ei gyfnod oedd, ac mewn rhyw ystyr yr oedd yn ffodus yn ei genhedlaeth, gan dyfu'n fachgen cryf ac abl o ran corff a meddwl.

Credid y byddai unrhyw weithgarwch rhywiol ar ran dynion a merched yn annog y ddaear i dyfu.

Ni welodd fawr mwy ar ei thad gan iddo yntau dyfu'n gyw o frid ac ateb galwad y môr.

Rhwng hyn a llai yn cael ei dyfu'n gyffredinol trwy'r cynllun neilltuo tir fe fydd haidd gwanwyn yn brin y gaeaf nesaf ac felly hefyd y gwellt sydd yn bwysig i ffermwyr yr ardal yma.

Beth bynnag a ellid ddywedyd am waith Mr Jones yn cusanu genethod ieuanc iawn a fegir ganddo, ni welwn reswm yn y byd dros iddo barhau i wneuthur hynny wedi iddynt dyfu i fyny yn ferched ieuanc.

Mae siwgr yn bwydo toes ac yn cyflymu'r broses o dyfu.

Ac felly y bu hi ynglŷn â'r plant hefyd; bodloni iddynt dyfu'n Saeson er mwyn heddwch.

Mae pridd yr ardd fel rheol yn ddigon ffrwythlon i dyfu llysiau a blodau.

Wrth i'r burum dyfu, mae'n gwneud carbon diocsid sy'n ffurfio pocedi bychain o nwy yn y toes.

Llwyddodd Sandra i dyfu pedwar pen ar yr un pryd, a phob un ohonyn nhw'n wahanol.

Mae gan nifer o'r gwahanol fathau o adar hoff fwydydd, felly gallwn eu hannog i ddod i mewn i iard yr ysgol trwy dyfu mwy o'r planhigion hyn:

Dim ond yn y modd yna y gall gwyddoniaetth dyfu.

Mae'r arbrofion yn hwyl - amrywiant o grisialau siwgr i belenni gwyfyn symudol, o bobi i dyfu gerddi crisial.

Gwn fod un o chwiorydd tad fy mam yn briod a gwr o'r enw Pearson ac iddynt fynd i fyw yn Heol Jwbili, Cwmaman, Aberdar, lle yr oedd Mr Pearson yn mwynhau tipyn o fri lleol ar bwys ei allu anghyffredin i dyfu rhosynnau hyfryd.

Mae nitrogen yn gwneud i blanhigion dyfu mor fawr ag sydd modd.

Dyma'r ail noson RAP I'w chynnal ac mae'n prysur dyfu i fod yn ddigwyddiad cyffrous a phwysig iawn yng nghalendr y Sîn Roc yng Nghymru.

Ond cyn iddo dyfu'n dad fel tad plant eraill, fe'i golchwyd oddi ar fwrdd ei long mewn ystorm ym Mae Bombay ac fe'i collwyd.

Mae'r wasg yn Iwerddon newydd gyhoeddi gyda balchder i economi'r wlad dyfu 11% yn ystod 1999.

Mae gwrteithiau'n rhoi sylweddau cemegol sy'n angenrheidiol i blanhigion dyfu.

Gwyddwn fod yr amser yn nesau i mi symud i ddosbarth Modryb Lisi ym mhen pella'r festri, a dyna'r unig dro nad oeddwn am dyfu i fyny.

Mae pob elfen ym mioleg creadur - sut y mae'n datblygu wrth dyfu, lliw y llygaid, math o groen, neu faint crafanc anghenfil - wedi ei chynrychioli gan gyfuniad o un neu fwy o unedau gwybodaeth yn y DNA.

Yn yr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg bellach sy'n cymell y Cymry i dyfu'n genedl ddwy-ieithog, gan ennill y gorau o'r ddau fyd, byd y dec uchaf Seisnig a byd, nid dan yr hatsus yn llwyr, ond ar fwrdd yr ail ddobarth Cymreig.

Diau fod yn hyn awgrym o'r anesmwythyd cyfoes fod twrnameintiau, wrth dyfu'n achlysuron cymdeithasol arddangosiadol, yn colli peth o'r budd a ddeilliai

Mae gan yr atomfa hawl i ollwng rhywfaint o sodiwm hypochloreid i'r môr i stopio gwymon a phlanigion dyfu y tu mewn i'r pibellau sy'n cario dwr i'r môr.

Mae rhai ohonynt yn dal i dyfu, meddir, ac mewn mannau eraill mae'r cerrig yn codi ac yn mynd i ymolchi neu i dorri eu syched mewn afonydd neu yn y môr ar un noson arbennig.

Mae hon yn ffordd rwydd a glanwaith o dyfu cnwd da o domatos.

Hwyrach y byddant yn dal i dyfu.

Mae'r ymgyrch ILDIWCH I'R GYMRAEG yn parhau i dyfu ac ehangu, ond nid ydym wedi anghofio am yr arwyddion Give Way yna sydd o hyd yn uniaith Saesneg dros Gymru.

Beth sy'n digwydd i'r mwstard a berw'r dwr wrth iddynt dyfu?A fedrwch weld y coesynnau'n plygu ac yn pwyso tuag at y goleuni sy'n dod trwy'r twll?

Erbyn hyn roedd garddwyr N'Og yn medru tyfu cystal wynwyn a'r Garddwr Brenhinol, ac felly roedd gerddi'r Palas wedi mynd yn ol at dyfu dim ond blodau a ffrwythau gan adael y wynwyn i'r gerddi preifat a'r Lotments.

Dim ond prin gyffwrdd â'r maes eang hwn ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn ac mae angen i waith y Grwp Cynllunio Economaidd dyfu'n sylweddol os ydym i fod yn effeithiol.

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

Mae Eglwys Glenwood yn parhau i blannu, i dyfu ac i ddwyn ffrwyth.

Ardal y Peak yw ffynhonnell dŵr Sheffield hefyd ac wrth i syched y ddinas dyfu, felly y tyf y galw am foddi mwy o dir i greu argaeau.

Mae'n graddol dyfu'n ŵr anwleidyddol sy'n gyfystyr â chynnal y status quo.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

Ceir olion mewn lluniau a dynnwyd o'r awyr sy'n dangos bod ŷd yn cael ei dyfu gerllaw'r ddinas yn amser y Brythoniaid.

Gosododd y Brenin Affos ddarn helaeth o dir yn union y tu allan i furiau ei balas i fod yn Lotments, a chyhoeddodd fod traean o bob gardd trwy'r deyrnas, gan gynnwys pob lotment, i dyfu wynwyn.

Mae ffosfforws yn annog ffrwythau a blodau da i dyfu.