Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyfyniad

dyfyniad

Gellir crynhoi prif ergyd dadl Glyn Davies i'r dyfyniad a ganlyn er ei fod yng nghwrs ei erthygl yn dweud pethau nad ydynt yn hollol gyson ag ef, ac er ei fod yn gorfod cydnabod nad oes ganddo enghreifftiau o'r math o ganu a ragdybir ganddo.

Mae'r dyfyniad yn y gwreiddiol yn edrych fel hyn:-...

Mae gwirionedd y dyfyniad yn gwbl amlwg o'r olwg gyntaf a geir ar yr arddangosfa.

A meddai Dryden, 'Petai wedi byw [Aristotlys] i weld ein dramâu ni buasai wedi newid ei feddwl.' Fel yr awgrymir yn y dyfyniad, adnabyddiaeth mor eang ag sy'n bosibl o amrywiol ffurfiau o amrywiol gyfnodau gan amrywiol lenorion o amrywiol ieithoedd sy'n gwneud barn sy'n werth dibynnu arni.

Mae'r nod a amlinellir yn y dyfyniad uchod yn parhau i fod yn nod y dylid cyrchu tuag ato.

Yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen golyga: Yna ceir dyfyniad buddiol sy'n cysylltu'r term ag athrawiaeth gymdeithasol y Catholigion: Mae'r dyfyniad yn glir.

a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.

Mae'r dyfyniad o Hanes Rhyw Gymro yn dilyn yr orgraff wreiddiol ar wahân i'r priflythrennau ar ddechrau'r llinellau.

Daw'r dyfyniad ar ganol y td.

Bydd gwylwyr teledu gwybod yn dda am rym y dyfyniad uniongyrchol pan gaiff hwnnw un ai ei gyfeirio yn syth i'r camera gan gyflwynydd medrus fel David Attenborough neu ei fynegi trwy gyfrwng holwr profiadol.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Cam petrus oedd y dyfyniad tuag at greu synthesis rhwng 'Traddodiad Llanbryn-Mair' a'r system a ddysgasai gan Murry.

Mae'r dyfyniad yn llawn man ffrwydron cudd, megis y cyfeiriad cynnil at 'yr ychydig', diffiniad Lewis , fe gofir, o nifer y rhai a all werthfawrogi llenyddiaeth.