Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyheadau

dyheadau

Ar ddechrau'r saithdegau roedd yna duedd i feriniaid llenyddol Gorllewin yr Almaen ynghynt wawdio'r awduron hynny a oedd gynt wedi mynnu mai gwleidydda uniongyrchol oedd yn bwysig uwchlaw dim, ac a oedd nawr yn dychwelyd at lenydda wedi gweld methiant eu dyheadau.

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

Oherwydd heb rym gwleidyddol i reoli'n dyfodol fel cenedl does dim modd yn y byd y gallwn wir 'hyrwyddo' ein dyheadau a'n delfrydau mwyaf gwerthfawr.

Ymgasglodd pawb y tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol (sumbol o ddyheadau'r genedl ar ddechrau'r ganrif, a lle mae nifer o'n haelodau mwyaf brwdfrydig yn gweithio) i alw am ddeddf a fyddai'n gwireddu ein dyheadau yn y ganrif newydd hon.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch Christine Humphreys AC am lunio gwelliannau sydd yn ymgorffori rhai o'n dyheadau a dadleuon sylfaenol.

Dau mor wahanol o ran oed, cefndir a daliadau, dau mor wahanol o ran eu cynlluniau a'u dyheadau.

Tra mae'r myfyrwyr yn penderfynu sut a pham i newid er gwell fywydau'r dosbarth gweithiol (gyda chymorth ysgrifau Mao yn yr achos hwn), maent yn gwrthod yn lân â derbyn y dylent ystyried eu dyheadau eu hunain gyda'r un trylwyredd.

Nodau Cyngor Celfyddydau Cymru i'r celfyddydau yng Nghymru yw bod celfyddydau o'r ansawdd uchaf yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, eu bod ar gael i bobl Cymru ac yn dynodi dyheadau mwyaf aruchel arlunwyr a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw Cymru.

Maent wedi byw yma erioed ac yn adnabod eu cymdogion ac yn deall eu dyheadau.

Diben y digwyddiad yw rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr drafod eu dyheadau a'u problemau gydag ardaloedd eraill sydd a sefyllfaoedd tebyg.

Ceir yr un math o obaith angerddol yn Nuw yng nghaniadau Mair a Sacharias lle y cyfunir y dyheadau am ymwared cenedlaethol a chyfiawnder cymdeithasol.

Fel mam, yn naturiol, 'dwi yn llawn dyheadau a gobeithion wrth iddo fentro i'r sustem addysg a chymryd un o'r camau mwyaf yn ei fywyd.

'Byddai'n llawn cystal i chi adeiladu pencadlys newydd y Cynulliad ar blaned Mawrth ag ym Mae Caerdydd gan eich bod cymaint allan o gysylltiad a dyheadau'n cymunedau gwledig.

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.