Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dylanwadu

dylanwadu

Canolfan ymwelwyr newydd sy'n cyflwyno hanes a diwylliant y Celtiaid, pobl y bu eu diwylliant yn dylanwadu ar hanes Ewrop ers 3000 o flynyddoedd.

gan gredu bod y gynhadledd heddwch fawr sydd i'w chynnal yn llundain yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol i addysgu a dylanwadu ar feddyliau pobloedd y gwledydd.

Ar yr un pryd y mae'n bur ochelgar ynglŷn â defnyddio'r gair 'dylanwad'; e.e., ar ôl brawddeg aneglur sy'n awgrymu fod rhaid fod arferion y Trwbadwriaid wedi dylanwadu ar arferion y Gogynfeirdd, 'fel y rhaid bod y naill wedi dylanwadu ar y lleill, neu eu dyfod o ffynhonnell gyffredin i ddechreu', â rhagddo i sgrifennu.

Does dim amheuaeth nad yw cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol wedi dylanwadu ar agweddau o fywyd pob ysgol - ac ar fywyd pob athro ac athrawes.

Rhaid dylanwadu'n gadarnhaol ar eu hagweddau a'u defnydd o'r iaith o'r cyfnod cynharaf, i sicrhau y byddant hwythau'n trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant ac yn ei defnyddio fel iaith y teulu.

"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.

I sicrhau hynny, rhaid ceisio dylanwadu'n gadarnhaol ar agweddau ac arferion siaradwyr Cymraeg o ran defnyddio'r iaith.

Ganwyd Phil ar ddiwedd y ganrif o'r blaen pan oedd nerthoedd grymus yn dygyfor ar bob llaw, mewn cymdeithas a gwlad a byd, ac ni allent lai na dylanwadu ar drigolion y cyfnod.

Yn y drafodaeth a ddaeth wedyn daeth hi'n amlwg fod y Gymdeithas wedi bod yn eitha' llwyddiannus yn nhermau adeiladu cysylltiadau o fewn y Cynulliad (er enghraifft gyda gweision suful) ac o safbwynt dylanwadu ar y corff ei hun.

Disgrifiad yr awdur o'r Drych yw 'chwip o lyfr hanes', a dengys gymaint oedd y llyfr wedi dylanwadu ar genedlaethau, yn wir am ganrif a hanner.

Rhaid dylanwadu ar rieni sy'n medru siarad Cymraeg i drosglwyddo'r iaith i'w plant, boed hynny mewn teuluoedd lle mae un rhiant neu'r ddau yn siarad Cymraeg.

Wyddost ti, mae deugian y cant o blant ysgol y pentra 'cw yn Saeson þ gormod o lawar i neb fedru'u troi nhw'n Gymry byth." "Ac mae hynny'n dylanwadu ar iaith y plant lleol ac ar u harferion nhw." "siŵr iawn.

Ar y naill ochr a'r llall y mae hen hanes yn dylanwadu ar ymddygiad pobl ac y mae'n bwysig os ydym byth am ddeall ein gilydd ein bod yn sensitif i'r dylanwadau hyn.

Mae geiriau Richard Davies yma yn dangos yn eglur iawn paham y gellir galw'r corff hwn o hanes yn 'fyth': y mae'n dylanwadu ar yr ysbryd a'r dychymyg, a'i ddiben, neu ei rym arbennig, yw cynnal balchder a hunan-barch y Cymry.

Yn union fel y mae pobl wedi dylanwadu ar yr afonydd a'u tirwedd, y mae'n wir dweud bod y pethau hyn wedi effeithio ar fywydau pobl.

Ceisiwch feddwl sut y mae'r holl bethau hyn yn dylanwadu ar y tirwedd ac ar yr afon - a oes yna unrhyw bethau eraill na soniwyd amdanynt.

Ymddengys felly fod angen dylanwadu ar agweddau ac arferion pobl tuag at ddefnyddio'r iaith Gymraeg, er mwyn eu hannog i wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd, neu a fydd, ar gael iddynt.

Proffit ar y diwydiant cythreulig 'arfau' a pryd y gwelwn broffit ar y diwydiant Amaeth, sydd yn ol un aelod seneddol Toriaidd, Richard Body, o Sir Norfolk y 'Laime Duck' mwyaf o holl ddiwydiannau ein gwlad.' Nid yw felly yn anodd dod i'r penderfyniad fod y Diwydiant Arfau, Y Lluoedd Arfog, ac Amaethyddiaeth yn diwydiannau y gellir cael elw gwleidyddol Toriaidd ohonynt, ac ar yr un pryd wrth faeddu digon ar Undebaeth a newid rheolau a chyfreithiau'r wlad y mae'n hawdd dylanwadu ar y 'Floating Vote'.

Yn gyffredinol mae systemau amaethyddol yn datblygu o dan ddylanwadau cyson hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ond mae'r ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar batrymau amaethu o fewn blynyddoedd a thymhorau.

Roedd y posibiliadau o gael hyd i waith yn dylanwadu'n drwm ar batrwm traddodiadol oedran plant yn aros yn yr ysgol.

Canolfan ymwelwyr newydd syn cyflwyno hanes a diwylliant y Celtiaid, pobl y bu eu diwylliant yn dylanwadu ar hanes Ewrop ers 3000 o flynyddoedd.

Un o'r prif agweddau y dylid ei hystyried yn ddwys yw sut y gellid dylanwadu ar y sefyllfa sosio-economaidd leol drwy weithdrefnau cynllunio.

Fe wyddom am y modd y mae'r cylchedau micro a dyfeisiadau tebyg wedi dylanwadu ar ein ffordd o fyw yn yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae'r datblygiadau presennol ym myd microbrosesyddion, celloedd solar ac electroneg optig, er enghraifft, yn awgrymu y bydd cymaint, os nad mwy, o newid yn yr ugain mlynedd nesaf.

Y mae grŵp ymwthiol yn ym wneud ag amcanion penodol, ac yn ceisio eu sicrhau trwy dylanwadu ar y bobl sy'n meddu grym.

Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Mewn Llythyr Rheolaeth diweddar at aelodau'r Pwyllgor Addysg mae'r Archifydd Dosbarth yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau'r Pwyllgor drwy ganfasio'n wleidyddol dros un opsiwn arbennig a fyddai'n golygu cau nifer o ysgolion gwledig y sir.

Wrth ystyried cynyddu niferoedd, mae'n rhaid canolbwyntio ar grwpiau o fewn y boblogaeth lle mae dylanwadu'n gadarnhaol er mwyn cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn bosibl ac yn debygol o fod yn effeithiol.

Y mae llawer o bethau sy'n dylanwadu ar y tirweddau, ac yn wir ar yr afon ei hun, wrth iddi fynd ar ei thaith.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.