Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyletswydd

dyletswydd

Os bydd y Cynulliad yn methu yn ei dyletswydd, bydd Cymdeithas yr laith yn ceisio trefnu cynhadledd o'r fath. Nodiadau

Cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol a'r system ar sail y wybodaeth hon fydd dyletswydd y Bwrdd, nid mynd ati i'w chasglu ei hunan.

Ond nid oedd bod ar lwybr dyletswydd, meddai, yn sicrwydd na cheid stormydd.

Byddai pobl y Cwm, fel pobl pob Cwm y dyddiau hynny, yn "Cadw Dyletswydd".

Yr oedd ganddi hi ddyletswydd iddi hi ei hun yn anad neb, dyletswydd i ddod o hyd i'w rhyddid.

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Ni fyddai'n bosibl o dan y drefn hon i ni warchod swyddogaeth arolygol PDAG, sef y dyletswydd i gynnig cyngor i'r system trwy adrodd ar y ddarpariaeth, gan ddinoethi'r sefyllfa fel y mae, gan gynnwys a yw'r Gweinidogion wedi cadw at eu haddewidion deddfwriaethol.

Fe'i cefnogir gan haid o wleidyddion, cyfreithwyr, barnwyr, academyddion a dynion busnes, pob un yn cuddio tu ôl i'r honiad nad ydynt yn gwneud dim ond eu dyletswydd, gwy^r a gwragedd sy'n rhy ofnus i olchi'r piso o'u dillad isaf.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Hysbysodd Mr Causebrook na ddylai preifateiddio effeithio gymaint ar y rheilffordd oherwydd y byddai'n dod dan bennawd "Dyletswydd Cymdeithasol" yn hytrach nag un lle 'roedd yn bosibl gwneud elw.

Eu braint a'u dyletswydd gyntaf oedd gwasanaethu ac amddiffyn y wladwriaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig.

Yn y cyfamser annheg yw iddynt feirniadu etifeddion y traddodiad gwledig sy'n gwneud eu dyletswydd [trwy ganu o fewn eu profiad a'u traddodiad am beidio â gwneuthur dyletswydd pobl eraill hefyd.

A hefyd Dyletswydd Bardd, a'r Cynheddfau a ofynnid arno gynt'.

Ein dyletswydd ni yn awr yw ei chryfhau a gweld cydnabod y Gymraeg fel priod iaith Cymru.

Ef a'i gyd-weinidogion oedd 'cyfarwyddwyr y bobl, chwedl yntau, a'u dyletswydd, fel cynrychiolwyr y grefydd honno a oedd, yn eu golwg hwy, wedi achub y Cymry rhag tywyllwch yr oes o'r blaen, oedd goleuo'u cydwladwyr.

Er na fydd tribiwnlys Cymraeg na Chymreig, pan fydd tribiwnlys yn eistedd yng Nghymru ac yn delio ag achos Cymraeg, mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi iddo'r hawl i alw ar arbennigedd Cymraeg ac yn gosod dyletswydd arno i ystyried anghenion penodol plentyn o Gymro.

Yr ydym ar lwybr dyletswydd.

Nid oes dyletswydd ar y Cyngor i weithredu, ond os ydynt am weithredu, rhaid i'r gwariant ddod allan o'r hyn sydd wedi ei glustnodi i'r perwyl hwn.

Dyletswydd y teledwr, felly, yw cyflwyno ffeithiau iddynt yn syml ac yn gryno.

Ambell ddyn od fel Emrys ap Iwan a Michael D. lones a'u dysgodd mai amddiffyn eu cenedl oedd eu dyletswydd gyntaf.

dyletswydd gwyr fel Mr Llywelyn-Williams na wyddant ddim am y bywyd gwledig yw sgrifennu am y traddodiad dinesig a diwydiannol y gwyddant amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i weithredu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal ei fusnes.

Yn Hemingway, gwelai Fidel 'anturiaethwr yng ngwir ystyr y gair - rhywbeth hardd gan ei fod yn ddisgrifiad o ddyn nad yw'n cydymffurfio â'r byd ac sy'n gweld dyletswydd i'w newid'.

Ochr yn ochr â hyn roedd tuedd i gollfarnu'r dosbarth cyfalafol am fethu yn eu dyletswydd at y miloedd o bobl a oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd, yn ôl eu gorchymyn, i leoedd afiach.

O gofio, ysywaeth, nad ar fara yn unig y bydd byw dyn, dyletswydd arnom oedd trefnu ar gyfer agwedd ysbrydol, cymdeithasol, ac adloniadol yr aelodau.

GWLEIDYDDION YMARFEROL Yn fras, dynion yw y rhai hyn a gred, fel Karl Marx, fod llawer iawn o egni wedi bod ar waith i roi seiliau damcaniaethol ac egwyddorol i gred boliticaidd, ond mai eu dyletswydd hwy ydyw gweithredu.

Canys mae gwasanaeth cyfreithiol newydd yn bodoli ers dechrau'r flwyddyn hon, sef y cynllun Cyfreithiwr Dyletswydd.

Ar yr aelwyd honno fe fydd ei dad yn tragwyddol gadw dyletswydd 'yn ei "un" iaith' ac ni ddaw'r un llanw i ddiffodd 'Tân y Nef' na dryllio'r allor:

Sicrhawyd Esgob Tyddewi y gallai'r dyddiau penodedig o weddi%o fod yn fendithiol, ac er mwyn i'r Eglwys gyflawni ei dyletswydd ym mlynyddoedd y Rhyfel yr oedd yn ofynnol iddi fod yn gwbl argyhoeddedig fod y frwydr yn un yn erbyn galluoedd y tywyllwch.

Bum yn meddwl droeon fy hunan am yr un peth, ond ni wneuthum ddim i ddyfod a'r bwriad i ben, gan na thybiwn fod y darllenwyr yn galw am hynny....Erbyn hyn, yr wyf wedi fy mherswadio fod gofyn ymhlith y darllenwyr am nodiadau golygyddol, a'm dyletswydd innau yw ufuddhau i'r alwad.

Teimlem fod dyletswydd arnom i geisio esbonio fod diffygion mawr yn y gymdeithas y perthynem ninnau iddi, yn ogystal.

Un o brif amcanion Deddf yr Iaith Gymraeg yw sicrhau fod cyfle i'r rhai sy'n siarad Cymraeg gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg drwy osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru i baratoi a gweithredu cynlluniau iaith.

Fel Mazzini, credai mai nod angen gwareiddiad yw gosod dyletswydd o flaen hawl.

Awdurdodau lleol, yr unig gyrff â dyletswydd ystatudol i ailgartrefu'r digartref, yw ein prif ffynhonnell ailgartref o hyd.

Eto, yn gwbl ddirwgnach mae athrawon cydwybodol yn parhau i ysgwyddo y dyletswydd hwn a hynny gan amlaf heb air o ddiolch - ond gan wybod y byddant dan feirniadaeth lem pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.