Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyma

dyma

Dyma hi yn y gwreiddiol, "English is the most important element in the National Curriculum".

Dyma ddadl gymhleth sy'n galw am ystyriaeth.

Dyma arwyddocâd athrawiaeth y ddwy natur mewn perthynas â'r iawn, mai Duw sy'n gweithredu er iachawdwriaeth ei bobl gyda Iesu, fel Mab Duw, yn cyflawni'r goblygiadau dynol tuag at y Tad.

Dwi i erioed yn cofio fo'n eistedd lawr a dweud, rwan dyma be ydy Cynghanedd Lusg, dyma ydy Cynghanedd Draws.

Dyma swm a sylwedd ein perthynas â'r cyhoedd yng Nghymru ac mae hynny'n gosod cyfrifoldeb mawr ar ein holl staff.

'Dyma lwc!

Dyma'r adeg, felly, i geisio atal crach drwy eu chwistrellu â deunydd cemegol pwrpasol.

Dyma'r Atodyn cyntaf.

Dyma sut y dychmygodd Stephen Spielberg yn ei ffilm Jurassic Park y gallai dinosoriaid gael eu hail-greu heddiw - drwy ddarganfod beth oedd y wybodaeth enetig yn eu DNA, ac yna trosglwyddo'r wybodaeth enetig yma i wy anifail arall.

Dyma enghraifft a glywais yn ddiweddar gan wraig a soniai am gydnabod idd, 'Mae good job gydag e mae e'n deputy head mewn comprehensive school fawr yn y South of England.'

A dyma ddod, o'r diwedd, at heddiw ac i gyfnod pan mae pethau, mae'n ymddangos i mi, wedi tawelu peth.

Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.

Dyma'r amwysedd nodweddiadol Victoraidd a welir yn narluniau rhybuddiol Richard Redgrave neu Augustus Egg ar y naill law a synwyrusrwydd goludog gwaith artistiaid fel William Etty, Edward Poynter, Frederic Leighton a Laurence Almatadema (i nodi dyrnaid yn unig) ar y llaw arall.

Dyma yw hanes Mrs Lottie Edwards, Fodol, hithau heb fod yn rhy dda yn ddiweddar hefyd.

Dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw ddod i'r wyneb ers canrifoedd.

Dyma lle y rhwygwyd teimladau gan angau, a thoriad gwawr well wedi tywyllwch nos.

Dyma ei chyfraniad diweddaraf i BBC Cymru'r Byd.

Dyma ochr arall y geiniog i'r entrepreneurism y bu'r Hen Wyddeles yn canu'i glodydd ers bron i ddegawd.

'Dyma fi wedi eich dal chi, y cnafon.

Dyma, o bosibl, un o agweddau mwyaf cadarnhaol athroniaeth Gadaffi.

Dyma hefyd yr unig ffordd i Gymreigio'r Saeson yn llwyddiannus.

Dyma ffeinal Cwpan UEFA gorau erioed.

Dyma feibl llawer i wladwr a "dim llawer o grap ar y llythrennau% fel Thomas Bartley.

Dyma faterion a fu'n poeni rhai ohonom ar Bwyllgor Sefydlog y Mesur Iaith yn y Senedd.

Dyma gardiau arbennig ar gyfer Cariadon.

"Popeth yn iawn,' meddai fy Nhad-yng-nghyfraith, "Mi â' i â chi i orsaf Euston.' A dyma gytuno ar hynny.

Dyma pam yr oedd felly.

Dyma Waldo'n breuddwydio un noson.

Dyma ei degfed cyfrol o gerddi a'r drydedd i gynnwys cyfieithiadau Saesneg ochr yn ochr a'r cerddi gwreiddiol.

Dyma un hanes vn nodweddiadol ohono:

Dyma ddechrau newydd ac euthum ar raglen 'Heddiw' y BBC o Fangor y noson honno i ddathlu yn gyhoeddus.

Dyma felly gyfeiriad sy'n nodi Arthur fel patrwm o'r milwr perffaith, a phe gallem gredu fod holl destun y Gododdin, fel y mae traddodiad yn honni, yn waith bardd o'r chweched ganrif, gallem ddweud fod gennym yma grybwylliad o Arthur o fewn canrif, neu lai, i'w gyfnod ei hyn.

(Nid dyma'r sylwadau mwyaf difrifol ynglŷn â'r Gymraeg a gafwyd gan offeiriadaeth yr ardal, ond trafodir hynny'n fanylach yn nes ymlaen.) Os cafodd y Parchedig John Griffith, Aberdâr, y teitl 'enllibiwr ei wlad' gan y Parchedig D.

Dyma fe'n moesymgrymu i gyfeiriad Martha Arabela.

"Dyma'r goes fetel," gwaeddodd un o'r gelyn wrth edrych drwy ddarnau o'r Spitfire ar ôl iddi gwympo.

Dyma'r adeg i dynnu pennau'r blodau marw oddi ar blanhigion bylbiau fel cennin Pedr.

Dyma iti wats, rho hi am dy arddwrn,' ac er mawr syndod i'r bachgen taflodd wats arddwrn hardd ar y gwely.

Dyma'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn wrth astudio'r cyfrifon.

Dyma'r codwm mwyaf lwcus gefais i erioed!

'Dyma ni!' meddai Mini ymhen rhai eiliadau, gan gadw ei bys esgyrnog ar y gair 'cath'.

Dyma enw cryno ddisg amlgyfrannog newydd o ganeuon gan grwpiau o Sir Gaerfyrddin.

Dyma eiriau Harry Roberts, "Roedd ffrancon yn medru chwarae'r organ yn well hefo'i draed na 'Mr X' hefo'i ddwylo!!"

Ar un olwg dyma un o'r llyfrau anhawsaf i ddyn geisio dywedyd gair amdano.

Dyma, mewn gwirionedd, graidd y syniad o 'bobl', sef teulu wedi ymestyn allan ac ehangu.

Dyma nhw'n sisial eu ffordd drwyddi, a ninnau'n clywed ambell enw, '...

Dyma fe 'nawr yn gorfod sefyll wrth groesfan ddwyreiniol Llanelli cyn mynd i mewn i'r orsaf am arhosiad arall o ddeng munud.

Dyma'r ardd fotaneg fawr gynta i'w chreu ym Mhrydain ers dros ddwy ganrif.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

Dyma paham y mae sefyllfa iaith a threftadaeth ein cenedl, er ei pherycled, ac er bod safle daearyddol Cymru mor anfanteisiol, gymaint yn gryfach na sefyllfa Iwerddon, yr Alban a Llydaw.

Dyma wyrdroi traddodiad yr ardd-winllan.

Dyma hithau'n pledio am gael aros ychydig ddyddiau yn ychwanegol gan nad oedd ganddi unlle arall i fynd iddo ar y pryd.

A dyma fi wedi rhoi rhyw fras ddarlun i chwi o hanes y Capel.

Dyma ddetholiad bychan o ddyfyniadau:

DEWI: Dyma John Walter Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith.

Ar ôl ei holl ymdrechion i ddynoli Iesu yn y fersiwn gwreiddiol, dyma ef dair blynedd yn ddiweddarach yn ei ailddwyfoli - ac mae'r gerdd yn gyfoethocach ac yn sicrach ei rhediad o'r herwydd.

Dyma'r adeg addas i ladd chwyn lawnt hyn.

Dyma ddechrau cyfnod dygn dlodi Sarah Owen a'i phedwar plentyn.

A dyma gatrawd o filwyr - dim ond iti eu taro â'r wialen hud 'ma, fe ymladdan nhw fel milwyr byw.'

Dyma un arall o'r erthyglau na chafodd eu hailgyhoeddi, ac mae'n hawdd deall pam, gan fod ynddi ambell osodiad a fuasai'n anathema i'r Saunders Lewis diweddarach.

Dyma fi a Robin El, wrth ddþad adra o'r ysgol yn tynnu'u cyrc nhw, new yr oedd y lôn yn un foddfa o dar 'run fath â'r Trinidad Lake, ac yr oedd yn rhaid i drigolion y Waen fynd trosodd i gae Tai Croesion i fynd heibio.

A dyma yn awr gan Alan ac Elwyn Edwards gymwynas arbennig arall.

A dyma'i chymar - un gangen eithin dal, a losgwyd yn ddu deryn haf ar erwau Brynhafod.

A dyma nhw - gweddillion un o'r byddinoedd ag yr ydym wedi bod am y pedair blynedd ddiweddaf yn siarad yn eu cylch - yn dilyn eu camrau o fan i fan, brwydr ar ôl brwydr - dyma hi!

Dyma gyfrwng delfrydol i sicrhau fod pob sefydliad ac athrawon, rhieni, llywodraethwyr a myfyrwyr yn teimlo fod gyda hwy ran yn y broses o greu trefn addysg deg.

Dyma un o'r materion y rhoes y Trefnydd, J. E. Jones, fwyaf o sylw iddo a chryn orchest ar ei ran oedd ei lwyddiant i gyhoeddi a gwasgaru cymaint o ddefnydd.

Ceir sawl disgrifiad o arwyddion afiechydon a dyma un enghraifft fanwl gan Margiad Roberts yn ei cherdd Salwch.

Dyma olwg arwynebol iawn ar hanfod addysg gynradd a datblygiad plant bach.

Dyma'r arfau dylunio

Dyma Kitchener, ar ôl cyfnod prysur o arbrofi, yn gweld modd i gymodi agweddau gwahanol ar ei ymwybyddiaeth..

Dyma fo!

'Dyma fo'r cynllun,' mynnodd Robat.

Dyma chwi gemegydd, fe ddywedwn ni, yn astudio rhyw wedd ar gemeg y dderwen ym mhen draw'r ardd.

Dyma'i ffordd hi o gael rhyddhad.

Dyma ddelwedd o amhosibilrwydd dysgu, anobaith athro, argyfwng addysg.

Dyma rywbeth newydd yn Gymraeg, er nad yw'r teitl yn datgelu hynny, sef llyfr ar Ieithyddiaeth, pwnc nad yw wedi cael llawer iawn o sylw yng Nghymru hyd yma, ac y mai'n dda ei gael.

Dyma'r cwestiwn pwysicaf i unrhyw un sy'n gwneud rhywbeth efo'r celfyddydau.

Dyma rai o'r newidiadau sydd yn angenrheidiol o fewn y metamorffosis as mae'n angenrheidiol i'r cyfan o'r newidiadau fod yn bresennol ac wedi eu cwblhau cyn yr adwaenir yr ammffibiad.

Dyma oedd y geiriau y gofynnid i gefnogwyr eu harwyddo: "Yr wyf yn addo gwneud fy ngorau i sicrhau senedd i Sgotland, gyda hawliau mewn materion cartrefol".

A dyma fi wedi cael 'y ngalw i weithio yn Llangi%an lle maen nhw'n arbrofi gyda 'radar' a rocedi - a dyn a ŵyr beth arall!' "Fe wêl yr hen blant wahanieth, Idris.

Cyn i Idris rasio i'w dilyn, serch hynny, dyma'r crwydryn ar ei draed ac yn rhedeg ar ei ôl.

Dyma ddiwedd dy antur.

Dyma faes y mae yn rhaid i ni gael cyd-lyniad fel ysgolion neu fe welwn wendidau a drwg deimlad yn datblygu.

Dyma ddyfyniad arall o'r rhaglen goffa, Dafydd Gruffydd yn siarad:

Dyma'r colegau yr ydym yn son amdanynt felly.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Dyma sefydliad addysgol sy'n angenrheidiol i ddyfodol addysgiadol ac economaidd yr ardal.

Dyma nhw'n sisial ymlaen wedyn - 'buwch ...

Dyma yn ddiau deulu pwysig iawn o noddwyr.

Dyma rai o'r pwysicaf:

Dyma'r cyfnod pan gollodd Cymru gannoedd o'i phobl ieuainc ddisgleiriaf, y bechgyn a'r genethod a ddaeth allan o'n colegau a'n prifysgolion, ac a orfodwyd i fynd dros y ffin i Loegr i chwilio am swyddi am nad oedd gwaith ar eu cyfer yng Nghymru.

Dyma sefydlu deuoliaeth a oedd i liwio agwedd yr eglwysi at y Gymraeg tros y cenedlaethau.

Agorodd y drws a dyma Derek yn fy ngalw i fewn.

Dyma gyrraedd y tþ a churo'r drws, ac fe'i agorwyd gan hen wraig sydd yn gwahodd y gþr i'r parlwr.

[Trysorir popeth; dychwelir popeth - Gol.] Er mwyn hybu'r achos, comisiynodd Gerallt rhai o feirdd y Talwrn i gyfansoddi pennill graffiti un tro a dyma un ymgais gwerth chweil:

Dyma finnau, wedi darllen llyfryn neu ddau a hanner dwsin o gopi%au o'r Baltic Independent, yn cyrraedd yno i ddadansoddi'r hyn oedd ar droed.

"Dydyn ni byth yn cael dim i'w yfed, dim ond cael te yn ein llygaid, te yn ein gwallt, te yn ein trwynau, a the ar ein crysau." A dyma'r dyn trwsio sosbenni yn cau un llygad ac yn meddwl yn galed.

Dyma fo'n dweud wrthyn ni wedyn, pan oedd o'n blentyn, fod gan ei dad o dŷ ar Topsham Road a bod yna un stafell yn y tŷ a bwgan ynddi, ac y byddai ei dad yn ei chadw dan glo bob amser.

Dyma wlad o'r fath dlysaf - gwlad wedi bod unwaith, y mae yn amlwg dan driniaeth uchel; palasau a ffermdai mawrion ar bob llaw i mi, ond heb neb yn byw ynddynt - eu ffenestri yn yfflon, y muriau o'u cwmpas wedi syrthio, y perllanau mawrion a'r gerddi yr un ffordd â'r meysydd, a'r meysydd yn anialwch.

Doedd dim ond dweud celwydd amdani: '...,' meddwn, '...' Fodd bynnag, dyma'r trên yn chwislo, a llawer yn gorfod gadael y ciw cantîn yn waglaw, y porteri yn galw ar i bawb frysio a dyma ni unwaith eto ar yr 'olwynion chwim'.

Dyma nhw i chi.