Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dymor

dymor

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

Bydd yn ddifyr dilyn y postmortem ac yntau yn awr yn cychwyn ar ail hanner ei dymor gyda ni.

Ystyried dyfodol hir dymor BBC Choice Wales fel gwasanaeth teledu Saesneg ar gyfer pobl Cymru ac fel llwyfan ar gyfer talent yng Nghymru.

Mae'n well er mwyn llwyddiant hir-dymor.

Sgerbwd o le yw sgubor rhwng dau dymor fel hyn.

WL Oherwydd nad yw CCC yn fodlon mabwysiadu polisi o ariannu hir dymor rydan ni'n cael ein gorfodi i wneud cynlluniau'r cunud olaf.

Rhyw ddyrnaid o'r ffrindiau pennaf a wyddai mai ef hefyd oedd perchennog yr unig gwmni Polion Galwp yn y wlad, a'r wythnosau twrnament oedd ei dymor gorau ar wahan i amser etholiadau.

Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol felly basio penderfyniad fod angen Deddf Iaith Newydd a pharatoi'r ffordd tuag at ddeddfwriaeth newydd; a hynny cyn diwedd ei dymor cyntaf. Beth alla i ei wneud?

Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.

I'r anifeiliaid a'r planhigion fel ei gilydd, mae yna ddirfawr werth yn yr encilio i gyflwr aros a disgwyl dros dymor digroeso'r gaeaf.

'Mae wedi bod yn dymor siomedig - mae'r haf i ffwrdd gynnon ni a rhaid i ni weithio'n galed ac edrych ymlaen i'r tymor nesa.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.

'Mae wedi bod yn dymor hir, tymor caled.

Y teledu a wnaeth Dymor o'r fath yn bosibl.

Mae'n amlwg i bawb erbyn hyn mai prif bwrpas ail dymor Thatcheraidd yw troi bob un ohonom yn Gyfalafwyr trwy werthu i ni yr hyn yr ydym yn ei berchen yn barod, e.e.

Nid yw mis Medi pwysig a'i dymor gwerthu wedi cyrraedd eto.

Amser a ddengys beth fydd ei ddyfodol yn yr hir dymor.

'Mae wedi bod yn dymor diflas.

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu o ddifrif i greu deddfwriaeth newydd fydd yn gosod seiliau cadarn i drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg a hynny o fewn ei dymor cyntaf.

Mae cyflawni'r rhain yn sail i holl amcanion strategol hir dymor y Bwrdd.

Cytunodd yr ysgrifennydd Mrs Meirwen Jones a'r trysorydd Mr Oswyn Evans aros yn eu swyddi am dymor arall.

I Ieuan Gwynedd a'i debyg, nid oedd eu gwrthwynebu yn ddim ond parhad o ymgyrch hir-dymor i sicrhau addysg deilwng i'r Ymneilltuwyr.

Disgwylir cyflogi swyddog project er mwyn cyflawni project penodol o fewn cyfnod penodol, nid i fod yn swyddog datblygu hir-dymor i'r maes yn gyffredinol.

Dyna ni drwyddo i'r rownd derfynol am yr ail dymor o'r bron.

Mae Mark Williams wedi sicrhau'i le ar frig rhestr detholion snwcer y byd am dymor arall.

Wedi i Emma ddechrau cael gafael ar y gwir, cyfaddefodd Madog ei fod wedi bod yn gwerthu cyffuriau a'i fod yn diodde o effaith hir-dymor cymryd gormod o gyffuriau.

am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.

Byddai'r rhain yn gwahaniaethu o fro i fro neu'n newid o dymor i dymor, ac yn peri hwyl neu siom, ac felly yn mynd yn ddeunydd cof ac ymddiddan.

Ond fe allai hi fod ar ben ar dymor Abertawe.

Reiats bwyd yn Buenos Aires oedd un o'r rhesymau pennaf pam y bu'n rhaid i Raul Alfonsin roi'r gorau i arwain y wlad bum mis cyn i'w dymor ddod i ben.

nid ar ddechrau neu ddiwedd blwyddyn) bydd hawl y cynghorydd hwnnw i lwfans sylfaenol yn gyfyngedig i gyfran o'r lwfans sylfaenol yn unol â'r berthynas rhwng nifer dyddiau ei dymor swyddogaeth a nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

Mae angen ymroddiad ynglwm â disgyblaeth ac mi allai perfformiad ddatgan mwy am obeithion hir dymor Cymru na thriphwnt yn Kiev.

(d) Rhowch brawf ar rai o'r arbrofion, paratowch un wers a'i chyflwyno i aelodau eraill y grŵp (Gan fod cynifer mewn ambell grŵp efallai na ellir gwneud hyn tan dymor y Gwanwyn).

Wrth i dymor y swyddogion Rhanbarth ddod i ben, diolchodd Meira i Jane Jones, Rhiannon Ellis a Pat Lloyd am eu gwaith clodwiw a'u cyd-weithrediad yn ystod y ddwy flynedd.