Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dymunol

dymunol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r pentrefi'n amlwg yn amrywio o ran maint a staws - rhai gyda nifer o dai sylweddol, a gerddi, a llwybrau dymunol rhwng y coed ar y ffiniau - darlun chwedlonol a rhamantaidd o flaen fy llygaid - eraill yn fwy clod a diaddurn.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

Bu hefyd yn noddwr hynod o hael i rai o feirdd enwocaf ei gyfnod athroes Abergwili yn un o hafnau mwyaf croesawgar a dymunol yr oes i lenorion.

Blasus, dymunol a derbyniol oedd y mwyar!

Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n rhannu swyddfa â dyn arall am ddwy flynedd: "Ro'n i'n gwybod 'i fod o'n "uwch sosialydd'' o fath ond roedd o'n foi dymunol iawn ac yn ddiwylliedig tu hwnt.

Felly cafodd mwy nag un llecyn dymunol yng Nghymru yr enw anghyffredin hwn.

Beirniadwyd y ddisgyblaeth allanol yma yn aml am iddi fod yn 'allanol', a hefyd am ei bod yn rhwystro'r economi rhag rhuthro ymlaen i gyrraedd rhyw nod dymunol o dyfiant.

A llais digon dymunol hefyd.

Felly mewn enw lle y mae'n debyg mai 'llecyn dymunol, hyfryd' yw ei ystyr.

Dydd Llun a ddaeth, ac yr oedd gweddi'r Person wedi ei hateb yr oedd y tywydd yn hyfryd a dymunol, ac yr oedd Harri wedi bod yn ei baratoi ei hun i'r ymgyrch er toriad y wawr.

Roedd y llanw'n uchel, dim golwg o'r mwd, a mastiau cychod hwylio yn cwblhau darlun dymunol tu hwnt.

Fe gawn olwg ar y rhai mwyaf dymunol ohonyn nhw yn y bennod nesaf, ond rhoi sylw i ategolion cwbl angenrheidiol a wnawn yn y bennod hon.

Yn awr, ag yntau tua deg ar hugain oed, mae'n barod i fwynhau bywyd moethus gyda'i deulu yn ei lys dymunol yn Sycharth.

Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.

Peidiwch â nghamddeall i – mae hon yn albym ddigon dymunol, a does gen i ddim amheuaeth y bydd hi'n plesio cefnogwyr y grwp; ond ar hyn o bryd mae Word Gets Around yn dal i fod ar dop y rhestr, er bod yna bellach dair blynedd a hanner ers ei rhyddhau.

Efallai y cofiwch chi fod gen innau hawliau, hawliau fyddai'n llai dymunol ichi na dim ddigwyddodd neithiwr." "Dydi hynna ddim yn deg," meddai hi.

Penteulu'r llys dymunol hwn yw Owain Glyn Dwr, sy'n disgyn o waed brenhinol Gogledd Powys ar ochr ei dad ac o linach frenhinol Deheubarth ar ochr ei fam.

Onid oedd arwyddion dymunol o'n blaenau, un ac oll?