Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyneiddiaeth

dyneiddiaeth

Dadleuir o blaid derbyn rhamantiaeth, am ei bod wedi datblygu egwyddorion dyneiddiaeth i'w pen draw rhesymegol, trwy gydnabod mai profiadau unigol yw pwnc llenyddiaeth.

Mewn gair, yr oedd Dyneiddiaeth glasurol yn ogwydd crefyddol a enynnai frwdfrydedd optimistaidd.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Un o'r nerthoedd gyriannol yn hanes dyneiddiaeth Gymreig yw'r hyn y gellir ei alw'n 'fyth Brytanaidd' erbyn heddiw.

Un o nodweddion Dyneiddiaeth oedd dechrau tanseilio'r hen gred fod y bywydsawd yn gread i'w ddeall yn ôl dysgeidiaeth Tomos Acwin fel priodas rhwng Natur a Gras.

Poeni'r oedd hefyd, fel y cyfeddyf yn ei hunangofiant ac fel y tystia dyneiddiaeth amrwd y fersiwn cyntaf o 'Iesu Grist', am wirionedd y ffydd Gristnogol.

Yn sgîl y dadeni hwnnw daeth Dyneiddiaeth i fri.

Ystyr hyn oedd fod crac wedi ymddangos yn sylfeini Dyneiddiaeth.

Felly, y ddau ysgogiad sylfaenol mewn Dyneiddiaeth fodern oedd "Natur" a "Rhyddid" - Natur hunanesboniadol a Rhyddid personoliaeth yr ymchwilydd.

Agor meysydd dysg - dyna sylfaen dyneiddiaeth, a dyna yn y pen draw a barodd orseddu'r ieithoedd brodorol.

O'm rhan fy hun, er credu ohonof ddyfod yr adeg i ramantiaeth hithau ddatblygu yn glasuraeth newydd, megis yr aeddfedodd dyneiddiaeth y Dadeni yn glasuraeth, eto ni welaf i y gellir ymwrthod ag egwyddor hanfodol rhamantiaeth.