Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyner

dyner

Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?' ' Siaradai'n dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brath i'm calon.

"Ein dyfodol ni'n sicr, a Maes y Carneddau'n ddiogel - darn o Gymru wedi ei achub." Tynnodd ei llaw yn dyner dros y clais ar ei dalcen, clais oedd yn dechrau diflannu erbyn hyn.

'Nos dawch, cariad,' meddai Mam yn dyner, gan dynnu'r drws ar ei hôl.

Cyfansoddodd Thomas Jones gerdd goffa i'r 'Telynor Ieuanc o Langwm.' Y mae mwy nag un o'i gerddi yn mynegi yn ogystal, yn dyner a diffuant iawn, ei hiraeth am Arthur.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

Wnaeth e mo'i brifo ond doedd e ddim yn dyner chwaith.

Estynnwn ein cydymdeimlad mwyaf didwyll i Dilwyn yn ei alar, ac i aelodau'r teulu oedd mor dyner eu gofal dros y ddau drwy'r cyfnod anodd a thrist.

Cododd Elystan y corff eiddil yn dyner a'i roi i orffwys ar wely o beiswyn gerllaw'r pentwr coed wrth yr aelwyd.

Iddi'n ffin bu Gorffennaf - i dyner Dynnu'i hanadl olaf: Megan, merch y gan, a gaf Ar daith i'r mor diwethaf.

"Fy machgen i%, meddai ei dyner lais.

Pryddest farwnadol dyner am Jane Mary Walters, y wraig a fu'n gyfrifol am fagu'r bardd wedi iddo golli ei fam yn ddwyflwydd a hanner oed.

Awdl dyner er cof am ferch dalentog y bardd, Ennis.

Tad yn edrych Ar ei faban tlws, di-nam - Arno'n gwenu, yna'n trengi Pan ar fron ei dyner fam!

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

Gwelodd yno sut yr oedd Mrs Booth, er ei bod yn brysur gyda gwaith y Genhadaeth, yn gofalu'n dyner am ei phlant ac yn eu meithrin yn y ffydd, yn ogystal â rhoi addysg gyffredinol iddyn nhw.

Roedd hi'n noson olau leuad dawel, dyner a dywedodd fy mam os lapiwn fy hun yn ddigon cynnes y gwnâi'r cerdded les i mi.

Dylset fod mor dyner a phosib wrth y person yma.

Ni fynnai gerdded y bwrdd efo Merêd i fwynhau'r awel dyner a gwylio brig y llong yn corddi adlewyrchiad y lloer yn fyrdd o fflachiadau arian.

Mawrygwn Di am rythmau'r tywydd, am heulwen a glaw, tes a rhew, gwlith ac eira, y gwynt nerthol a'r awel dyner.

Mae'n wir ddrwg gen i.' Gafaelodd yn dyner yn ei garddwrn i'w hatal rhag rhwbio.' Rydw i'n fwy pengaled na chi, mae'n amlwg.

Wedi cael cefn y ddau aeth JR Jeremeia Hughes ati i ddad-bacio ei hoff drysor, a hynny mor dyner a gofalus a phe byddai'n fam ifanc yn diosg ei chyntafanedig.

O Beti, bydd yn dyner!

Holai'n dyner amdanaf, a dweud fel yr oedd wedi mwynhau cwmni Gwyn pan gyfarfu'r ddau gyntaf Gofynnais yn gynnil beth oedd ei adwaith i'r pasiant ar ôl bod ar y llwyfan, ac yr oedd yn ddigon moesgar i beidio â dangos gwyn ei lygaid a chodi ei ysgwyddau, fel yr arferai Illtud ei wneud i ddangos fod rhywbeth y tu hwnt i eiriau.

Mor dyner oedd ein horiau olaf gyda hi - ti'n dal ei llaw wan a minnau'n gwlychu ei gwefusau a'th dad yn cadw cynnull yn y Neuadd Fawr.

Ond ni ddaeth ateb o'r gwyll, a'r unig beth a glywid oedd y rhwyfau'n dyner sblashio'r dŵr wrth iddynt godi a gostwng am yn ail.