Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dynfa

dynfa

Fel yn achos pobloedd o bob rhan o Ewrop, bu America yn dynfa anodd ei gwrthsefyll i'r Cymry yn ystod y rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn sgil datblygiad y diwydiannau dur a glo, a chwareli llechi ym Mhensylfania.

Nid eglurodd Llio y dynfa ryfedd a deimlai at y bedd ac at hanes y gŵr a'r wraig, ond eglurodd nad oeddynt yn perthyn iddi.

America oedd y dynfa.

Dociau newydd Caerdydd oedd y dynfa a 'drychwch ar eu stad nhw heddi a'n stad ninnau pe dôi hi i hynny.

Wnaed y nesa' peth i ddim i liniaru'r newyn yn Somalia, nes ei fod yn haeddu cael ei alw'n newyn gyda'r gwaetha' yn hanes dyn; doedd gan newyn a haeddai ei alw'r gwaetha' yn Nwyrain Affrica ddim o'r un dynfa, mae'n amlwg.

Astudiaeth o goeden arbennig sydd yma, ond cyfleir rhywbeth o dynfa'r tirlun cyfan.