Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyngarol

dyngarol

Un feirniadaeth oedd bod yr adroddiadau am fwyd yn cael ei ddwyn yn annog pobl i beidio â chyfrannu'u harian ac felly'n llesteirio gwaith y mudiadau dyngarol.

Ond fe gollir popeth a fu'n werthfawr erioed gennym yng Nghymru os â Hitler ymlaen i ychwanegu eto at y galanastra a wnaed ganddo'n barod; ni buasai'n bosibl i mi nac i tithau, gyfaill, a fagwyd yn nhraddodiadau rhyddfrydig a dyngarol Cymru, fyw o gwbl mewn unrhyw wlad a orchfygwyd ganddo ef na chan Mussolini lwfr na chan Franco grefyddus.

Roedd mudiadau dyngarol wedi bod yn rhybuddio ers misoedd fod y sefyllfa yn y wlad fechan yn dirwyio'n gyflym ac y byddai'r boblogaeth o saith miliwn yn wynebu newyn difa%ol os na fyddai'r gymuned ryngwladol yn estyn cymorth yn fuan.

O'r hyn a welais i yng ngogledd Irac, er hynny, defnyddio'u sgiliau, eu cryfder corfforol a'u hyfforddiant didostur i wneud gwaith dyngarol yr oeddent - a'i wneud yn dda.

Mae e'n mynd i gyflawni'r gwaith dyngarol hwn o dan adain Canolfan Eglwys Lindon, Y Mwmbls lle mae Rhidian wedi bod yn aelod gweithgar yn ystod ei yrfa golegol.

Ar un adeg, fe geisiai'r wardeiniaid fod yn drugarog wrth gyflawni gorchwyl mor annymunol, a phenderfynwyd mewn rhai achosion mai'r drefn fwyaf dyngarol fyddai lladd y rhai hþn o fewn yr haid, a diogelu'r rhai ieuengaf.

Mewn dinas heb system ffôn doedd hi ddim yn hawdd i'r llu mudiadau dyngarol gyfathrebu â'i gilydd.

Ras oedd hi erbyn hyn i gyrraedd y pentrefi mwyaf ynysig cyn y mudiadau dyngarol neu, yn well fyth, gyda'r llwyth cynta' o sachau bwyd.

Rhoddir lle anrhydeddus i'r genhadaeth dramor a'r gofal sy'n cael ei gynnig i'r tlodion gan asiantaethau dyngarol a Christnogol fel Tearfund.

Ymgyrchwr diflino ydoedd - dros amryw byd o achosion, gan gynnwys masnach rydd, dirwest, heddychiaeth, addysg wirfoddol, cymdeithasau dyngarol ac Ymneilltuaeth radical.