Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dynged

dynged

Oni bai am yr adroddiadau gafaelgar yn y wasg a'r lluniau grymus a ddaeth yn dystiolaeth feunyddiol o dynged y Cwrdiaid, dwi'n ofni mai troi cefn fyddai ymateb gwledydd y byd.

Ond prin y gellid disgwyl i Gymro ifanc tair ar hugain oed, ar dân o frwdfrydedd tros ei egwyddorion crefyddol, sylweddoli fod y rhod yn troi ac y byddai ei dynged ef ei hun yn dystiolaeth drist i effeithiolrwydd yr adwaith o dan John Whitgift.

Arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith a fu ers hynny yn cynnal crwsâd i orchfygu'r dynged a ragwelai Saunders Lewis.

Ond buan iawn yr ymysgydwodd o'r dynged honno, ac yn bennaf dan ddylanwad O.

Roedd yn rhaid troi 'nôl a gadael Dai Mandri i wynebu 'i dynged.

Wrth roi help llaw i ddadlwytho un o'r hofrenyddion a oedd yn cludo cymorth i'r mynyddoedd, cefais deimlad annifyr mai dyna o bosib' fyddai fy nghyfraniad mwya' gwerthfawr i dynged y Cwrdiaid.

Nid creadur â'i dynged wedi ei rhagbenodi yw dyn, ond enaid cyfrifol â chanddo'r hawl i ddewis, i bennu ei dynged ei hun.

A'r un dynged fyddai'n ei hwynebu hithau.

Ond ystyriwch dynged jygiau.

Mae Richard Vaughan, ar y llaw arall, er iddo dreulio ychydig amser yng Nghymru, yn gweld ei dynged draw yn Lloegr.

Go brin y gallai gwlad fechan dlawd heb lywodraeth na llais rhyngwladol ddylanwadu ar dynged y rhain, hyd yn oed pe bai ei phobl yn dymuno hynny.

Meddyliais am y Mab Afradlon yn hanner marw o newyn; roeddwn yn gweld yr un dynged yn digwydd i mi, ond fe ddaeth hi'n well arno ef pan gafodd fynd adre i gnoi aml i sleisen o'r llo pasgedig!

Yn aml, ar ben bwrdd y safai yntau cyn awr ei dynged, a'i esgidiau oedd y cyswllt mwyaf pendant rhyngddo â'r ddaear - rhwng bywyd a marwolaeth.

Ond hyderwn y bydd ei dôn i gyd yn gymorth i arwain y meddwl ifanc i ddeall a dirnad yn well ffyrdd a throeon bywyd, a galluogi dyn i ennill llywodraeth fwy dros ei dynged.

Ac o dosturio, dechrau myfyrio ar dynged dyn ac anifail.

Roedd hefyd yn berson bucheddol a chyfrifol, mawr ei ofal am dynged iaith a llenyddiaeth, diwylliant a moes y genedl.

Un o themau cyson y dyneiddwyr yw eu gofid dros dynged y Gymraeg.

Drwy anghyfarwyddo'r berthynas gonfensiynol rhwng datblygiad rhesymegol a datblygiad amserol naratif mae Robin Llywelyn yn awgrymu un ffordd i danseilio'r metanaritifau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a greodd dynged yr iaith Gymraeg.

Dyna'r dynged bosib sy'n destun pryder i rai Gwyddyl craff, ac yn eu profiad mae gwers i ninnau hefyd, a gwers y mae llawer ohonom am ei dysgu.

Yr oedd gofyn gwneud trefniadau ar unwaith rhag ofn y byddai eraill yn dioddef yr un dynged.

Trodd y ddau grychydd eu hwynebau tua'r gorllewin ac ymhen dim o amser dyma'r 'weilgi frigdonog yn dyfod i'r golwg ac am foment meddyliodd yr hen frawd mai 'dyfrllyd fedd' fyddai ei dynged.

Yn fwy na dim, cyflwynir ni yn y Cofiant hwn i dynged drist a droes asbri a direidi llanc ifanc yn y diwedd yn dorcalon.