Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyngedfennol

dyngedfennol

Mae hon yn foment dyngedfennol sy'n dangos yn glir bellach mai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru, yn hytrach na chymryd y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig gwirioneddol Gymreig.

Mae ambell ddyn yn amgyffred gwirionedd gyda'r un angerdd ag y mae dyn arall yn colli ei galon i ferch : mae'r gwirionedd yn ei feddiannu, megis ac y mae'r munud y digwydd hynny'n dyngedfennol yn ei hanes.

Cyrhaeddodd y ffactor dyngedfennol yn nhemtiad yr anialwch, lle y bu i'w ufudd-dod ddadwneud anufudd-dod Adda.

Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar ôl y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd sôn am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar.

Yn Y Corff yn y Gasgen mae'r dystiolaeth yn erbyn Henry Davies mor dyngedfennol nes bod canlyniad ei achos llys yn un sydd bron â bod yn rhy hawdd ei broffwydo.

Roedd yr oedi'n niwsans i griw o ohebwyr blinedig ond yn dyngedfennol i'r gwirfoddolwyr a oedd yn gorfod symud bwyd yn gyflym o'r maes awyr i'r canolfannau bwydo, os am ddal eu gafael arno.

A dyna ni - ar awr mor dyngedfennol yn hanes y rhyfel - yn gwastraffu ein hamser yn of er yn y lle hwn.

Yn ei lythyr heddiw i Alun Michael mae Ffred Ffransis llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Addysg yn hawlio fod hon yn foment dyngedfennol fydd yn dangos ai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru ynteu a gymerir y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig Cymreig.

Cyn y foment dyngedfennol honno mae'r oriau weithiau'n gallu troi'n ddyddiau o fyw'n gynnil ar y nesa' peth i ddim gwybodaeth.

Hon oedd y noson dyngedfennol.

Fel llawer i ohebydd tramor arall, roedd wedi digwydd cyrraedd gwlad ar adeg dyngedfennol.

O'r funud dyngedfennol honno mae'r cariad yn rheoli ei bywyd.

Bydd Giggs yn colli gêm dyngedfennol Manchester United gyda Sturm Graz yng Nghynghrair y Pencampwyr heno oherwydd y ffliw.

Y mae llawer bwlch yn ein gwybodaeth am yr esgob o hyd ond yr ydym yn gallu gweld yn gliriach nag erioed mor dyngedfennol oedd ei waith.