Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyrnu

dyrnu

'Nid bob dydd y lleddir mochyn' chwedl f'ewyrth, ar derfyn cinio diwrnod dyrnu.

Owan Jos Ty'n Llech ddwedodd wrtho pan oedd yn dyrnu'n y Fadog 'Cau dy geg, neu cad dy din allan o gyrraedd blaen fy nhroed i'.

Roedd ambell un yn anesmwyth ac yn dyrnu'r drws a gweiddi, '...' .

Ond erbyn hyn roeddwn i wedi llwyr gyffroi ac wedi dechrau dyrnu a pheltio o ddifri.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

bywyd ac amryliw batrymau'r bywyd hwnnw - diwrnod lladd mochyn, diwrnod dyrnu, diwrnod cneifio, byd torrwyr cerrig, carega, cymortha, llofft stabal, - byd y ferm, y tir a'r tywydd...

Rwy'n dewis cofio noson o'r fath a'r stori a adroddid pan oedd Dic yn grwt anfoesgar deuddeg oed, a minnau'n ferch bedair ar bymtheg hunan ymwybodol ac awyddus, pan oedd gennym ddwy forwyn, sef Gwladys - yr orau a fu gyda ni erioed, ac sy'n dal i ddod yma i'n helpu ar adegau arbennig megis cynhaeaf a chneifio a dyrnu - a Meinir, a briododd â Morus Ddwl a chael pump o blant ganddo, tri yn fyw a dau yn farwanedig.

Mae'n bosib iawn, ond tyben nad ydi'r rheswm yn llawer symlach na hynny ac mai'r cyflyr cynnar sy'n gyfrifol þ yr hen syniad hwnnw na ddylai merched bach frathu a chicio a dyrnu ac na ddylai bechgyn bach ollwng dagrau?

mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y byd fel llwch y llawr dyrnu i'r dommen.

oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau-dyrnu haf: a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith...

Nid heb boen y llwyr lanheir y llawr dyrnu.

Gallem ei glywed yn chwibanu drwy'r gwifrau, yn dyrnu'r ffenestri, ac yn sgrialu'n llithrig ar hyd y deciau heibio talcenni'r cabanau.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.