Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyrys

dyrys

Mae'r rhelyw o seicotherapwyr a seicdreiddwyr yn tueddu i droi at chwedloniaeth Groeg, ac at chwedlau Grimm, Aesop a hyd yn oed La Fontaine, er mwyn cael cyffelybiaethau i'w galluogi i geisio trafod a chyflwyno'r ffyrdd dyrys sydd gan bobl o ymwneud â hwy eu hunain ac â'i gilydd.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Sylfaen yr ymwybyddiaeth fodern, meddai, oedd ymdeimlad o annibyniaeth ar allanolion ynghyd â ffydd yng ngallu'r dyn unigol i ateb cwestiynau dyrys bywyd drosto'i hun.

Gadawodd ef Bowser mewn sefyllfa anodd dros ben ac o hyn ymlaen cafodd fywyd dyrys iawn.

Un o broblemau mwyaf dyrys llenyddiaeth Gymraeg cyn y cyfnod modern yw dyddiad Ystorya Trystan.

Y mae distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd mynwent ar ganol nos, y distawrwydd ofnus annaearol hwnnw y gellwch wrando arno a'i glywed; y distawrwydd dirgel, dyrys sydd yn eich amgylchu ac yn araf y eich gorthrechu; yn myned drwy dyllau'r croen i'r corff, yn cerdded drwy'r gwaed i'r galon ac i'r ymennydd.

Mwy dyrys ydyw'r deongliadau a gynigir ar natur rhai o 'gymeriadau' eraill y chwedl, ac ar lawer o'r digwyddiadau.

Yr Ymgnawdoliad a'r Iawn: Er iddi hi darddu o ddadleuon athronyddol digon dyrys, amcan ymarferol oedd i gyffes yr eglwys ynghylch cyflawn ddyndod a llwyr dduwdod ei Harglwydd.

Ond mae busnes y chwaraewyr o ffwrdd yma yn gwestiwn dyrys.

Ymhell cyn dyfodiad y KKK roedd denu a chadw nawdd yn creu problemau dyrys i olygyddion a newyddiadurwyr.